Mae cyfraddau’r Coronafeirws yn uchel iawn yng Ngheredigion ar hyn o bryd, ac yn parhau i gynyddu’n ddyddiol.

Rydym yn pryderu'n benodol am y cyfraddau heintio cynyddol yn ardal Aberystwyth. Mae ffigurau dyddiol o ran nifer yr achosion yn dangos bod trosglwyddiad yn y gymuned wedi chwarae rhan fawr yn y cynnydd mewn achosion yn yr ardal, a bydd data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos yn y dyddiau nesaf bod nifer yr achosion ar lefel nad ydym erioed wedi'i gweld o’r blaen yng Ngheredigion. Mae nifer yr achosion yn cael effaith sylweddol ar ein hysgolion, ac o ganlyniad rydym wedi gofyn i rai ysgolion roi mesurau ychwanegol ar waith.

A ninnau ar drothwy gwyliau hanner tymor yr Hydref, gofynnwn i chi ystyried sut y gallwch helpu i atal y feirws rhag trosglwyddo. Meddyliwch am bwy rydych chi’n cwrdd â nhw ac ymhle. Po fwyaf o bobl sy'n cwrdd mewn cyswllt agos, y mwyaf o siawns sydd ganddynt o ddal a lledaenu'r feirws. 

Er mwyn lleihau cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, ac er mwyn sicrhau y gall ein hysgolion ailagor yn llawn ar ôl yr hanner tymor, mae’n rhaid i ni gadw at y canllawiau sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys:

  • golchi ein dwylo’n rheolaidd
  • cadw pellter cymdeithasol
  • cyfyngu ar ein cyswllt cymdeithasol
  • cwrdd yn yr awyr agored lle bynnag y bo hynny’n bosib
  • gwisgo masg mewn mannau prysur dan do
  • os ydych chi’n cwrdd dan do, sicrhau bod digon o awyr iach yn dod i mewn.

Rydym yn gwybod bod hyn yn anodd, ond gofynnwn i chi wneud yr aberth hwn fel y gallwn amddiffyn ein cymunedau, ein ffrindiau a'n teuluoedd cyn cyfnod y gaeaf.

Rhaid i unrhyw un sy'n datblygu unrhyw o symptomau’r coronafeirws hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf, a’r unig adeg y dylech adael eich cartref yw i gael prawf. Gallwch archebu prawf yma: www.gov.uk/get-coronavirus-test

Dylai pobl hefyd fod yn ymwybodol o symptomau cynnar eraill, megis cur pen, blinder, a phoenau cyffredinol sydd fel arfer yn gysylltiedig â'r ffliw. Rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn ofalus iawn, a golchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol yn enwedig, ac os oes gennych unrhyw amheuaeth, trefnwch brawf.

Y brechlyn yw’r ffordd orau o’n hamddiffyn rhag y feirws. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut a ble y gallwch gael brechlyn rhag COVID-19 yn ogystal â brechlyn rhag y ffliw tymhorol ar: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/

Cadwch led braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

22/10/2021