Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi cadarnhau eu bod wedi canfod achos o’r Ffliw Adar mewn dau aderyn a fu farw y tu mewn i ffiniau Gwarchodfa RSPB Ynys-hir, Eglwys-fach, Machynlleth, Ceredigion SY20 8TA. Adar gwyllt yw’r adar yr effeithiwyd arnynt. Nid oes unrhyw achosion wedi’u canfod hyd yma mewn adar dof yn yr ardal.

Pan fo achosion o heintio adar gwyllt, ni cheir unrhyw ardaloedd o dan waharddiad. Fodd bynnag, mae staff gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn cysylltu â ffermydd cyfagos i roi cyngor a chanllawiau iddynt. Maent hefyd mewn cyswllt â chyd-weithwyr yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ac mewn awdurdodau cyfagos.

Mae gwarchodfa RSPB Ynys-hir ynghau heddiw o ganlyniad i'r achosion, ac mae mesurau’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd i ddiogelu’r cyhoedd. Anogir y cyhoedd i gadw draw o’r ardal i atal unrhyw ledaeniad pellach posibl o haint y Ffliw Adar hyd nes y cyhoeddi rhagor o wybodaeth. Bydd unrhyw ddiweddariadau ynghylch agor y cyfleuster yn cael eu hysbysebu ar eu tudalen Facebook.

Gallai adar gwyllt a heintiwyd arwain at heintio lleoliadau lle cedwir dofednod, adar hela, adar anwes neu unrhyw adar dof eraill. Gallai hyn fod trwy gyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol. O ganlyniad, mae’r achosion hyn yn dystiolaeth bellach o’r angen i bobl sy’n cadw adar barhau’n wyliadwrus i'r bygythiad o’r ffliw adar, ynghyd â’r angen i roi mesurau bioddiogelwch uwch ar waith i atal trosglwyddo’r ffliw adar ymhellach yn yr ardal.

Mae mesurau tebyg i'r canlynol yn hanfodol yn unol â Pharth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan:

  • Sicrhau nad yw ardaloedd lle cedwir adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft trwy rwydo pyllau a gwaredu â ffynonellau bwyd ar gyfer adar gwyllt
  • Rhoi bwyd a dŵr i adar mewn ardaloedd caeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt
  • Cyfyngu ar fynd a dod pobl i mewn ac allan o ardaloedd lle cedwir adar
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw’r ardaloedd lle cedwir adar yn lân ac yn daclus
  • Cyfyngu ar unrhyw halogiad cyfredol trwy lanhau a diheintio ardaloedd concrid, a ffensio ardaloedd gwlyb neu gorslyd
  • Cadw hwyaid a gwyddau dof ar wahân oddi wrth ddofednod eraill

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Parth Atal Ffliw Adar ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Gyllid a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd: “Er nad oes gofyniad wedi cael ei gyhoeddi hyd yma ei bod yn hanfodol cadw adar dof i mewn, cynghorir pobl sy’n cadw adar ar ffermydd dofednod mawr a’r rheiny sydd ag adar dof yng nghyffiniau’r warchodfa natur i ystyried cadw eu hadar dan do mewn man caeedig.”

Dylai unrhyw un sy’n cadw dofednod hefyd gadw llygad am unrhyw arwyddion o’r haint yn eu heidiau, gan gynnwys adar sydd newydd farw, gan roi gwybod am unrhyw amheuon yn syth i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion trwy ffonio 0300 1000 313 neu anfon e-bost i enquiries@apha.gov.uk.

Mae symptomau mwyaf cyffredin y ffliw adar yn cynnwys:

  • pennau chwyddedig
  • lliw glas ar y grib a’r dagell
  • rhedlif o’r llygaid neu’r trwyn
  • syrthni (dullness)
  • diffyg chwant am fwyd
  • trallod resbiradol
  • dolur rhydd
  • gostyngiad sylweddol mewn wyau

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o’r symptomau uchod mewn unrhyw aderyn byw, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion lleol trwy ffonio 0300 1000 313, neu’r Awdurdod Lleol trwy anfon e-bost i publicprotection@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881. 

Mae’r risg o drosglwyddo’r haint rhwng adar a bodau dynol yn isel iawn. Fodd bynnag, ni ddylech gyffwrdd ag unrhyw aderyn sydd wedi marw. Mae’r canllawiau canlynol ar gael gan y GIG sy’n cynnwys gwybodaeth am y perygl o ffliw adar: Ffliw Adar.

11/11/2021