Mae Llwybrau Celtaidd, sef partneriaeth rhwng Cynghorau Sir Ceredigion a Chaerfyrddin ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yng Nghymru a Chynghorau Sir Wicklow, Wexford a Waterford yn Iwerddon, wedi cael £1.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ail gam prosiect twristiaeth Llwybrau Celtaidd. Gwnaed cais llwyddiannus i'r Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a fydd yn sicrhau parhad y prosiect hyd at 2023.

Mae'n gasgliad o brofiadau twristiaeth, sy'n annog teithwyr i ymweld ag Iwerddon a Chymru i ddarganfod yr ysbryd Celtaidd drwy awgrymu profiadau gwirioneddol Geltaidd yng Ngorllewin Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.

Caiff y contract ei ariannu’n rhannol o dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Yr Economi ac Adfywio : "Nod prosiect Llwybrau Celtaidd yw annog ymwelwyr sy'n gyrru trwy pob un o'r cyrchfannau partner ar eu ffordd i gyrchfannau mwy poblogaidd i dreulio amser yn archwilio pob ardal a dychwelyd dro ar ôl tro. Mae rhaglen gyffrous wedi'i chynllunio a fydd yn galluogi rhwydweithiau Llwybrau Celtaidd presennol a newydd i ddatblygu ac adeiladu ar lwyddiant hyd yma ac i gydweithio i liniaru effaith Covid-19."

Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu gwaddol Llwybrau Celtaidd ymhellach drwy wella profiad ymwelwyr ymhellach gan weithio'n agos gyda'r sector twristiaeth.

Mae busnesau o Gymru, gan gynnwys busnesau o Geredigion, eisoes wedi bod yn ymweld ag Iwerddon er mwyn dysgu a rhannu arfer gorau gyda'u cymheiriaid Gwyddelig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Rhodri Evans: "Bydd y cynnig ar gyfer yr ail gam yn adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi'u datblygu hyd yma ac yn rhoi cyfle i gyflawni'r fenter i'w llawn botensial."

Mae pecyn cymorth ar gael i fusnesau a chyrchfannau sy'n rhoi arweiniad a syniadau am sut y gallant greu eu profiadau Celtaidd eu hunain a chyfrannu at lwyddiant y prosiect.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydyn ni mor awyddus ag erioed i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon; mae gennym lawer o bethau mewn cyffredin o ran ein traddodiadau, ein diwylliannau a'n heconomïau. Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE, mae'r math hwn o gydweithredu yn bwysicach byth ac yn rhan o'n huchelgeisiau o fewn Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd.  Rydym am barhau i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth i sicrhau ein bod yn tyfu ac yn ffynnu gyda'r cyfoeth o gyfleoedd mae'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yn eu cynnig."

Dywedodd Michael McGrath, y Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio: "Hoffwn longyfarch y prosiect Llwybrau Celtaidd am ei lwyddiant wrth gael cyllid ychwanegol o dan Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020. Wrth i'r diwydiant twristiaeth geisio adfer yn sgil effaith COVID-19, mae ymestyn y prosiect hwn, sy'n hyrwyddo cydweithredu parhaus rhwng Gorllewin Cymru a De Ddwyrain Iwerddon, yn ein hatgoffa o'r cyfoeth o harddwch naturiol, treftadaeth ac amwynderau twristiaeth sydd mor bwysig o ran cyfrannu at ddatblygu rhanbarthol yn y ddwy economi."

Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.llwybrauceltaidd.cymru

12/03/2021