Cipiodd Ysgol Henry Richard, Tregaron, yr ail wobr yn rownd derfynol rhyng-sirol cystadleuaeth Cwis Dim Clem.

Dros y misoedd diwethaf bu disgyblion nifer o ysgolion Ceredigion yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwis Dim Clem. Ar ddydd Mawrth 03 Mawrth fe wnaeth Ysgol Henry Richard gynrychioli Ceredigion yn y rownd derfynol rhyng-sirol. Cipiwyd yr ail safle yn erbyn ysgolion o siroedd Castell Nedd Port Talbot, Brycheiniog, Caerfyrddin a Phenfro.

Cystadleuaeth gwis wedi ei drefnu gan Fentrau Iaith de orllewin Cymru yw Cwis Dim Clem sydd yn gweld plant blwyddyn 6 ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ateb pob math o gwestiynau ar bynciau amrywiol gan gynnwys daearyddiaeth, hanes a mathemateg i chwaraeon, cerddoriaeth a bwyd. Nod y gystadleuaeth yw i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg newydd i blant ysgol ac i feithrin cysylltiadau rhwng ysgolion a’r Mentrau Iaith.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet dros Gwasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Meddai: “Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Henry Richard ar gyrraedd yn agos iawn at y brig yn y gystadleuaeth. Mae cystadleuaeth Dim Clem yn bwysig iawn ac yn gyfle gwych i’n disgyblion blwyddyn 6. Ceir y cyfle i gymryd rhan, siarad yn gyhoeddus, datblygu gwybodaeth ar amryw bynciau, defnyddio’r Gymraeg, cystadlu, a chymdeithasu.”

Trefnwyd rowndiau Ceredigion o’r cwis gan Cered: Menter Iaith Ceredigion ac roedd hyn yn cynnwys rownd ysgol, rownd leol a rownd sirol. Gwnaeth 14 o ysgolion y sir gystadlu eleni sydd yn ddwbl y nifer a gystadlodd yn 2019. Wedi cystadlu brwd, Ysgol Henry Richard ddaeth i’r brig ac ennill yr hawl i gynrychioli Ceredigion yn y rownd derfynol yng Nghaerfyrddin ar 03 Mawrth. Ysgol Cilgerran o Sir Benfro gipiodd y wobr gyntaf gydag Ysgol Henry Richard yn ail ac Ysgol Pontyberem o Sir Gâr yn drydydd.

Dywedodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, “Mae Cwis Dim Clem yn rhoi cyfle newydd i ddisgyblion gystadlu mewn cystadleuaeth cyfrwng Cymraeg yn erbyn ysgolion eraill ac roedd hi’n braf gweld y disgyblion yma yn cael cymaint o fwynhad tra’n profi eu gwybodaeth cyffredinol i’r eithaf. Roedd hi’n grêt hefyd gweld un o ysgolion Ceredigion yn gwneud mor dda yn y rownd derfynol.”

06/03/2020