Uned gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion yw'r cyngor cyntaf yng Nghymru i ennill Lefel Aur o dan y cynllun Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr (BMG). Mae BMG yn gynllun sicrhau ansawdd sy'n sicrhau bod sefydliadau a gwasanaethau yn nodi ac yn cefnogi Gofalwyr di-dâl.

Mae'r cynllun yn ymdrin â Gofalwyr o bob oed a sefyllfa. Maent yn cynnwys gofalwyr o dan 18 oed, Gofalwyr ifanc sy’n 18-25 oed, rhiant-ofalwyr sy'n gofalu am blentyn sydd ag anabledd neu broblem iechyd meddwl, Gofalwyr sy’n frawd neu’n chwaer a phobl hŷn sy'n gofalu am ei gilydd.

Roedd yn rhaid i’r Uned Gofalwyr ddangos dealltwriaeth ddatblygedig o faterion Gofalwyr, lefel uchel iawn o ddarparu gwasanaethau i Ofalwyr, sut maent wedi cefnogi newid diwylliannol drwy weithio gyda thimau'r cyngor a'u cynorthwyo i fod yn fwy ymwybodol o ofalwyr ac roedd yn rhaid iddynt ddangos tystiolaeth glir o ganlyniadau.

Heather West yw Swyddog Datblygu Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Rydym wrth ein boddau, ac rwy'n falch iawn o'r Tîm! Gwnaed argraff arbennig ar y panel gan yr amrywiaeth o waith a wnaed, gan weithio ym mhob rhan o’r cyngor, a'r ymrwymiad corfforaethol amlwg i ymgorffori gofalwyr fel blaenoriaeth ar draws pob maes. Dywedodd un o aelodau’r panel fod o’n anodd iawn i gyrraedd y lefel Aur, sef y wobr uchaf.”

Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae ennill Lefel Aur yn y cynllun sicrhau ansawdd Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr yn llwyddiant ysgubol i'r Uned Gofalwyr. Rydym yn falch iawn bod ein Huned Gofalwyr wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith rhagorol yn cefnogi gofalwyr a'u teuluoedd yng Ngheredigion. Mae rhaid canmol y staff i gyd am eu gwaith caled.”

Mae Gofalwyr yn darparu gofal di-dâl drwy ofalu am aelod o'r teulu, cyfaill neu bartner sy'n sâl, yn eiddil, yn anabl neu'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol. Bydd tri allan o bump ohonom yn ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau. Gall helpu rhywun i gael y gorau o fywyd fod yn hynod o werthfawr, ond gall fod yn anodd iawn hefyd. Gall cael y cyngor iawn i ofalwyr ym mha bynnag gam o'r rôl ofalu wneud gwahaniaeth enfawr i'w hiechyd ac iechyd y rhai y maent yn gofalu amdanynt.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/58086 neu i gael cyngor defnyddiol i ofalwyr, ewch i: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-ofalwyr/.

17/01/2020