Mae Rhybuddion Llifogydd wedi cael eu rhyddhau ar gyfer ardal y llanw yn Aberteifi ac Y Borth.

13:17, 14/11/2020 - Aberteifi

Gallai hyn effeithio ar eiddo sy’n ffinio â'r afon rhwng Pont Aberteifi a phontffordd yr A487, gan gynnwys y Strand, Heol y Santes Fair, Rhes Gloster, Pwll-hai. Hefyd ym marc ceir yr archfarchnad ac eiddo cyfagos

Mae rhybudd i fod yn barod am lifogydd hefyd mewn grym ar hyd arfordir Ceredigion gyfan.

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd am ddiweddariadau am sefyllfa’r tywydd, neu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa rybuddion sydd mewn grym. 

21:00, 14/11/2020 - Borth

Mae Rhybudd Llifogydd pellach hefyd wedi cael ei ryddhau ar gyfer Borth. 

Bydd hyn yn effeithio ar yr ardal o Ynys Las i Frynowen, gan gynnwys tir isel ac eiddo rhwng amddiffynfeydd y môr ac Afon Leri. Yr eiddo agosaf at y lan sydd fwyaf tan fygythiad.

Mae yna hefyd risg am donnau uchel ar hyd arfordir Ceredigion ar gyfer bore dydd Sul, 15 Tachwedd 2020.

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu ychwanegu at y dudalen hon.

14/11/2020