Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae Porth Cymorth Cynnar wedi sefydlu llwyfan rhithwir i sicrhau ein bod ni’n gallu cadw mewn cysylltiad â thrigolion bregus ar draws Ceredigion.

Nid yw llawer o drigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth neu’r ddarpariaeth y maent yn ei dderbyn fel arfer, megis grwpiau rhieni neu ddosbarthiadau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff. Yn hytrach, rydym yn sicrhau y cedwir mewn cysylltiad â’r holl drigolion sy’n hysbys i’n gwasanaethau, ac eraill, drwy alwadau lles rheolaidd, pe baent yn dymuno derbyn hynny.

Bydd ein staff yn cyfathrebu gydag oddeutu 2000 o drigolion, gan amrywio o bobl ifanc i deuluoedd i ofalwyr a all fod angen cyswllt rheolaidd arnynt neu a fyddai’n elwa o hynny tra nad yw eu gwasanaeth yn gweithredu fel yr arfer.

Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o alwadau lles wedi cael eu gwneud, ac mae’r rhain wedi cael derbyniad da ar draws Ceredigion. Mae trigolion wedi dweud ei bod yn wych bod rhywun yn cadw mewn cysylltiad â nhw, er mwyn rhoi cyfle iddynt gael galwad ffôn wythnosol a rhywun i siarad â nhw.

Nodwyd y byddai Mrs. Jones (enw wedi’i newid) sy’n 92 mlwydd oed ac yn byw ar ei phen ei hun ac sydd wedi arfer cael llyfrgell symudol Ceredigion yn ymweld â hi’n rheolaidd yn elwa o alwad ffôn wythnosol i wneud yn siŵr ei bod hi’n cadw’n iawn gan na fydd ei gwasanaeth llyfrgell arferol yn ymweld â hi am ychydig. Roedd Porth Cymorth Cynnar yn gobeithio cysylltu â Mrs Jones, ond nid oedd ganddynt rif ffôn cyswllt. Ar ôl dod o hyd i rif ffôn cyswllt drwy’r cyfeiriadur lleol, roedd aelod o dîm Porth Cymorth Cynnar yn gallu cysylltu â hi. Drwy lwc, mae Mrs Jones yn derbyn cymorth gan ei theulu a’i chymdogion i gasglu nwyddau, ond roedd hi’n ddiolchgar iawn i gael rhywun i siarad â nhw a gwneud yn siŵr ei bod hi’n iawn. Mae galwad ffôn wythnosol wedi cael ei drefnu gyda Mrs. Jones er mwyn sicrhau ei bod hi’n cadw’n iawn ac i wneud trefniadau os oes angen unrhyw beth arni.

Os byddech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn elwa o’r Gwasanaeth Cadw Mewn Cysylltiad, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk a fydd yn cyfeirio eich ymholiad at wasanaeth Porth Cymorth Cynnar.

Mae Porth Cymorth Cynnar hefyd yn diweddaru rhestrau adnoddau yn rheolaidd, ac mae’r rhain ar gael yma ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19 

20/04/2020