Dymuna Cyngor Sir Ceredigion longyfarch yr holl ddisgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw.

Cadarnhawyd yr wythnos hon gan Lywodraeth Cymru mai Graddau Asesu’r Ganolfan fydd yn cael eu defnyddio i ddyfarnu graddau’r holl ddisgyblion yng Nghymru. Mae Gradd Asesu’r Ganolfan wedi’i seilio ar ystod eang o dystiolaeth o waith y disgybl a gyflawnwyd cyn y cyfnod clo.

Rydym yn ymwybodol bod yr holl ddisgyblion a’r staff addysgu a chymorth wedi wynebu heriau newydd eleni o ganlyniad i effeithiau’r coronafeirws, a hoffem longyfarch pob un ohonynt am eu gwaith caled a’u parodrwydd i addasu mewn cyfnod heriol. Mae’r canlyniadau hyn heddiw yn werthfawr, ac yn galluogi disgyblion i gamu’n hyderus i’w dewis nesaf, boed mewn byd gwaith, addysg bellach neu’r chweched dosbarth.

Gan nad oes modd i’r disgyblion fynd i’w hysgolion unigol heddiw i gael eu canlyniadau yn y modd arferol, dymuna Pennaeth pob ysgol yng Ngheredigion longyfarch holl ddisgyblion y sir ar eu llwyddiannau gan ddymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dorian Pugh, Pennaeth Ysgol Henry Richard: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd i’n pobl ifanc eleni wrth iddynt orfod gorffen eu cyfnod yn Ysgol Henry Richard yn gynt na’r arfer. Er nad ydynt wedi cael y cyfle llawn i brofi eu hunain mewn system arholiadau, gobeithiaf y bydd y disgyblion yn falch o’u canlyniadau sydd yn adlewyrchu cydweithio ymroddedig rhyngddynt hwy a staff yr ysgol. Hoffwn ddiolch i’r disgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU eleni am yr holl waith diflino ac am fod yn ddisgyblion arbennig i’r ysgol, a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt wrth symud ymlaen i addysg ôl-16 neu’r byd gwaith.”

Dywedodd Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr: "Rydym yn falch iawn o gyflawniadau’r disgyblion a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i'r disgyblion yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at groesawu llawer o’r disgyblion yn ôl i’r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Pedr ym mis Medi. Fel ysgol, rydym yn credu bod y canlyniadau hyn yn brawf o waith caled y disgyblion, safonau addysgu uchel yr ysgol a chymorth y rhieni.”

Dywedodd Mair Hughes, Pennaeth Ysgol Penglais: “Mae ein disgyblion Blwyddyn 11 wedi gweithio’n galed iawn eleni yn ystod y cyfnodau digynsail hyn i gael eu canlyniadau TGAU. Rydym yn falch iawn o’u cynnydd ac yn edrych ymlaen at groesawu disgyblion yn ôl i'r chweched dosbarth, a hoffem ddymuno’n dda i'r rheiny a fydd yn symud ymlaen.”

Dywedodd Nicola James, Pennaeth Ysgol Uwchradd Aberteifi: “Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar eu llwyddiannau haeddiannol a diolch i'r staff addysgu am eu gwaith manwl ac egwyddorol wrth baratoi graddau asesu’r ganolfan. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wneud y gorau o gynnydd pob disgybl mewn amrywiaeth eang o bynciau, ac astudiodd y rhan fwyaf o’n disgyblion rhwng 12 ac 14 pwnc TGAU neu gymwysterau cyfwerth, ac fe’u haseswyd yn rheolaidd trwy gydol y cyfnod astudio. Rydym yn falch o gyflawniadau ein holl ddisgyblion, sy’n ganlyniad i’w gwaith caled trwy gydol eu cyfnod yn astudio ar gyfer TGAU, ynghyd â mewnbwn ein staff addysgu a chymorth rhagorol sy’n sicrhau profiadau dysgu o safon uchel a gofal bugeiliol ar gyfer yr holl ddisgyblion. Rydym yn llongyfarch pawb ar eu llwyddiant.”

Dywedodd Owain Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Aberaeron: “Mae’n fraint cael llongyfarch ein disgyblion ar eu canlyniadau ardderchog. Er mor wahanol oedd y misoedd diwethaf o ran profiad yr ysgol, mae’r canlyniadau yma’n gwbl haeddiannol ac yn adlewyrchiad o ymrwymiad disgyblion i’w hastudiaethau, o’u gwaith caled ac o gefnogaeth athrawon a staff yr ysgol a rhieni a gofalwyr. Rydym yn gyffrous i groesawu canran uchel o ddisgyblion yn ôl i’n chweched dosbarth ac yn dymuno’r gorau i bawb sy’n mynd i astudio mewn coleg, dilyn prentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith.”

Dywedodd Robert Jenkins, Pennaeth Ysgol Bro Teifi: “Dymuna Pennaeth a staff Ysgol Bro Teifi ddiolch i’r disgyblion am eu hymroddiad a’u cyfraniad i fywyd yr ysgol ers iddi agor. Er iddi fod yn flwyddyn heriol iddynt, ymatebodd ein disgyblion yn aeddfed iawn mewn cyfnod digynsail. Braf fydd croesawu mwyafrif o’r flwyddyn yn ôl i’r Chweched Dosbarth ym mis Medi a dymunir pob llwyddiant i’r disgyblion hynny sy’n ymgymryd â chyrsiau coleg, prentisiaethau neu fyd gwaith. Gobeithir y ceir y cyfle i gydnabod eu hymdrechion yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Rhian Bowen Morgan, Pennaeth Dros Dro Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig: “Fel ysgol, rydym yn falch iawn o ymdrechion ein disgyblion TGAU a’r modd y maent wedi ymdopi â’r heriau presennol. Maent wedi gweithio’n ddiwyd tuag at eu canlyniadau dros gyfnod o ddwy flynedd, ac er gwaethaf y sefyllfa ddigynsail eleni, mae’r cymwysterau y maent wedi’u hennill yn parhau i fod o werth uchel ar gyfer eu cam nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Llongyfarchiadau gwresog a thwymgalon eto eleni i ddisgyblion Ceredigion ar eu llwyddiant yn eu cymwysterau TGAU. Er gwaetha’r anawsterau a achoswyd gan y pandemig, mae ein disgyblion wedi gweithio’n galed ac y mae’r canlyniadau’n brawf o’u hymdrechion diwyd. Bydd yr un gwerth a statws yn perthyn i ganlyniadau TGAU eleni, a dymunwn yn dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

20/08/2020