Yn dilyn lansiad llwyddiannus Cerdyn Gofalwyr Ceredigion a lansiwyd ddechrau mis Hydref, mae Ceredigion yn falch o fod y sir gyntaf yng Nghymru i lansio Cerdyn Gofalwyr Ifanc yn rhan o fenter Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Y nod yw y bydd gan bob ardal yng Nghymru Gerdyn Adnabod i Ofalwyr Ifanc erbyn 2022.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r cerdyn hwn wedi cynnwys cydweithio gyda phartneriaid yn Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn ogystal â Gofalwyr Ifanc.

Gofalwr Ifanc yw rhywun sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na all ymdopi ar ei ben ei hun yn sgil salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu fod yn gaeth i rywbeth. Yn ôl Gofal Cymdeithasol Cymru, amcangyfrifir bod tua 30,000 o ofalwyr o dan 25 oed yng Nghymru.

Mae Uned Gofalwyr Ceredigion wedi gweithio gydag archfarchnadoedd yn y sir i gefnogi'r gwaith o gydnabod y cerdyn, galluogi Gofalwyr Ifanc i gael slotiau siopa sydd orau ganddynt yn ystod mesurau cyfnod clo Covid-19, ac yn yr hirdymor, byddant yn gweithio gydag Ysgolion, Fferyllfeydd, cyfleusterau’r Cyngor tebyg i ganolfannau hamdden, a Meddygfeydd Meddygon Teulu, a hynny gyda chymorth ein partneriaid, yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, er mwyn sicrhau bod deiliad y cerdyn yn cael ei gydnabod fel un sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Sara Humphreys yw Swyddog Datblygu Gofalwyr Interim Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae Covid-19 wedi gwneud bywyd yn anodd i bawb gan gynnwys Gofalwyr Ifanc. Mae Uned Gofalwyr Ceredigion wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r cynllun hwn yn effeithlon, gan ein bod yn credu y gall gefnogi Gofalwyr Ifanc i oresgyn rhai o’r heriau a gyflwynwyd i’w rolau gofalu o ganlyniad i’r pandemig.”

Bydd y cerdyn yn cael ei lansio ar 2 Tachwedd 2020 drwy weminar ar-lein. Bydd siaradwyr gwadd yn cynnwys y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan; Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn; Cynghorydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Eiriolwr dros Ofalwyr, Catherine Hughes; a Phennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Kate Cubbage.

Dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r pandemig cyfredol wedi, ac yn parhau, i effeithio’n fawr ar bob un ohonom, gan gynnwys gofalwyr ifanc Cymru. O gydbwyso gofal yn y ystod cyfnod clo cenedlaethol â gwneud gwaith ysgol yn y cartref a mynd ati i wneud tasgau hanfodol tebyg i siopa – rwy’n ymwybodol iawn o ba mor anodd y mae eu sefyllfa wedi bod. Dyna pam rwy’n meddwl bod cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn bwysig iawn; rydym am sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod, a’u bod yn cael help a chymorth i fanteisio ar wasanaethau pryd bynnag a lle bynnag y bydd arnynt eu hangen. Gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a chyllid gwerth £200,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol i gynllunio a threialu syniadau newydd ar gyfer cardiau adnabod, rwy’n falch ein bod yn gallu ystyried rhoi model cenedlaethol ar waith ledled Cymru erbyn diwedd 2022, gan ddilyn arweiniad Cyngor Sir Ceredigion yn ystod y lansiad heddiw.”

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r Eiriolwr dros Ofalwyr a’r Aelod Cabinet dros Borth Ceredigion, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd: “Mae'n bleser bod yn rhan o lansiad Cynllun Cerdyn Gofalwyr Ifanc Ceredigion heddiw. At hynny, mae'n anrhydedd bod yn Eiriolwr dros Ofalwyr Ceredigion a gallu gweithio'n agos gydag Uned Gofalwyr Ceredigion a'n partneriaid er budd gofalwyr ledled y Sir. Rwy’n gweld yn ddyddiol y cymorth a gynigir i ofalwyr, a bydd y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc yn ased ychwanegol gwych i Geredigion.”

Kate Cubbage yw Pennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Dywedodd: “Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn falch o fod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol ledled Cymru i ddatblygu model cerdyn adnabod cenedlaethol a fydd ar gael i bob gofalwr ifanc ledled Cymru erbyn 2022. Rydym yn falch iawn bod Cyngor Sir Ceredigion yn lansio’r cerdyn adnabod cyntaf un heddiw o dan y model cenedlaethol newydd. Bydd y cerdyn a'r adnoddau ategol yn helpu gofalwyr ifanc i siarad yn agored â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg am y cymorth a'r ddealltwriaeth y gallai fod eu hangen arnynt oherwydd eu rôl gofalu. Byddant hefyd yn rhoi'r offer a'r wybodaeth sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i gydnabod gofalwyr ifanc a rhoi'r parch, y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu.”

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am Gerdyn Gofalwr Ifanc, ewch i’n gwefan neu ffoniwch 01545 570881.

02/11/2020