Mae busnesau newydd wedi gallu manteisio ar sesiynau misol ar-lein i ddatblygu eu busnesau.

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn cynorthwyo busnesau bwyd a diod trwy gynnig cymorthfeydd ar-lein, er bod y ganolfan wedi bod ar gau oherwydd cyfyngiadau symud y coronafeirws.

I lawer, mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfle i arbrofi yn y gegin, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn effro gyda phobl yn rhannu eu creadigaethau pobi – mae blawd wedi bod fel llwch aur a’r galw am gitiau pobi gartref wedi bod yn enfawr. Mae hyn wedi rhoi cyfle i bobl i fod yn greadigol yn y gegin ac ailddarganfod eu cariad at goginio.

Efallai bod dechrau busnes ar hyn o bryd yn teimlo’n frawychus. Er hyn, wrth i ni ddechrau dod allan o’r cyfyngiadau symud, mae'r byd cyfnewidiol yr ydym bellach yn byw ac yn gweithio ynddo wedi creu cyfleoedd newydd. Mae'n amser gwych i archwilio'r farchnad a’r hyn y gall eich busnes ei gynnig i'ch cymuned leol ac yn ehangach.

Enghraifft berffaith o hyn yw Y Gegin Maldod, sef busnes melysion a gefnogwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru i sefydlu'n gyflym ac yn effeithlon yn ystod y cyfnod hwn.

Cynorthwywyd y busnes gan dîm o Dechnolegwyr Bwyd trwy'r broses o gynnal arolygiad Iechyd yr Amgylchedd o bell, gan sicrhau bod yr holl systemau cywir ar waith i weithredu'n ddiogel o gartref. Bu Canolfan Bwyd Cymru hefyd yn helpu gyda labelu i sicrhau’r cynhwysion cywir a rhestru alergenau, gwybodaeth am oes silff a disgrifiadau cyfreithiol o'r cynnyrch.

Dywedodd Louise Waring Y Gegin Maldod: “Heb y gefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru, gallaf ddweud yn onest na fyddwn yn rhedeg y busnes nawr. Rwy'n dal i fod yn ceisio gweithio allan cynlluniau HACCP a'r hyn yr oeddwn ei angen ar gyfer fy labeli – yn sicr ni fyddwn wedi cael cymeradwyaeth Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i fasnachu. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy i mi, gan fod gen i incwm bellach ar adeg pan na fyddai gen i ddim byd fel arall. Fe wnaethant hyd yn oed helpu i rannu eu cysylltiadau â chynhyrchwyr pobi eraill a chyflenwyr cynhwysion, sydd wedi arbed arian i mi.”

Dywedodd Arwyn Davies, Rheolwr Corfforaethol Twf a Menter Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch o allu parhau i gynnig ein sesiynau cychwyn ar-lein. Mae ein technolegwyr bwyd ar gael i'ch helpu trwy’r amrywiaeth o ddisgyblaethau a rheoliadau bwyd – rydym yn edrych ymlaen at eich helpu i gymryd eich camau cyntaf i sefydlu busnes bwyd neu ddiod. "

Ydych chi wedi creu cynnyrch gwych, wedi llunio syniad gwych am frand, ac wedi rhannu'ch cynnyrch â gweddill y byd? Mae’r Cymorthfeydd Ar-lein ar gael am ddim.

Gallwch gofrestru eich diddordeb ar wefan Canolfan Bwyd Cymru

24/06/2020