I nodi Sul y Cofio eleni, gosodwyd plethdorchau ar ran yr Awdurdod ddydd Sul, 08 Tachwedd 2020.

Gosodwyd y plethdorchau gan y Cynghorydd Gareth Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, ger Cofeb Aberystwyth a hefyd ar Gofeb Llanbadarn Fawr, sef ei ward ef ei hun.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies: “Roedd y trefniadau ar gyfer Sul y Cofio yn wahanol i’r arfer eleni oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws a’r cyfnod atal byr. Er hyn, ynghanol hyn oll, rydym yn dal i gofio aberth y cenedlaethau a fu ac am dalu teyrnged i’r rheiny a gollodd eu bywydau. Braint felly oedd gosod y plethdorchau hyn ar ran yr Awdurdod fel arwydd o’n parch a’n coffadwriaeth.”

Mae adeiladau Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi cael eu goleuo’n goch gyda’r hwyr a’r baneri wedi cael eu chwifio’n uchel yn ystod yr wythnos a arweiniodd at Sul y Cofio, a byddant yn parhau felly tan ddydd Mercher, 11 Tachwedd 2020, i nodi Dydd y Cadoediad.

09/11/2020