Mewn ymateb i'r risg uwch o Ffliw Adar, bydd gofyniad cyfreithiol i ddofednod ac adar caeth gael eu cadw mewn siediau neu eu cadw ar wahân i adar gwyllt mewn ffordd arall o 14 Rhagfyr ymlaen yng Nghymru.

Cyflwynwyd y mesurau newydd yn dilyn nifer o achosion wedi’u cadarnhau o'r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N8 yn Lloegr ym mis Tachwedd. Ar 1 Rhagfyr, cafwyd cadarnhad o’r ddau achos cyntaf mewn adar gwyllt mewn dau leoliad gwahanol yng Nghymru. Gallai adar gwyllt gyflwyno'r feirws hwn i safleoedd lle cedwir dofednod, adar hela, adar anwes neu adar caeth eraill. Gallai hyn fod drwy gyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Yn ogystal â’r gofyniad gorfodol ynghylch siediau, os ydych yn cadw dofednod, gan gynnwys adar hela, adar anwes, neu adar caeth eraill unrhyw le ym Mhrydain, dylech adolygu eich mesurau bioddiogelwch. Mae canllawiau llawn Llywodraeth Cymru ynghylch mesurau bioddiogelwch i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r prif ofynion fel a ganlyn:

  • Cadw dofednod ac adar caeth mewn siediau neu eu diogelu gyda rhwydi
  • Glanhau a diheintio dillad, esgidiau, offer a cherbydau cyn ac ar ôl dod i gysylltiad â dofednod ac adar caeth – os yw’n ymarferol, defnyddiwch ddillad amddiffynnol tafladwy
  • Lleihau symudiad pobl, cerbydau neu offer i ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth ac oddi yno er mwyn lleihau halogiad o dail, slyri a chynhyrchion eraill a defnyddio dulliau rheoli fermin effeithiol
  • Glanhau a diheintio siediau yn drylwyr ar ddiwedd cylch cynhyrchu
  • Cadw diheintydd ffres ar y crynodiad cywir ar bob pwynt lle dylai pobl ei ddefnyddio, megis mynedfeydd ffermydd a chyn mynd i mewn i siediau neu fannau cadw dofednod ac adar caeth
  • Lleihau cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng dofednod ac adar caeth ac adar gwyllt, gan gynnwys sicrhau na all adar gwyllt gyrraedd unrhyw borthiant na dŵr

Cynlluniwyd y mesurau diogelwch hyn gyda’r nod o gadw’r clefyd draw o’ch safle ac atal yr haint rhag lledaenu yn yr ardal. Dylech ymgynghori â milfeddyg bob amser wrth adolygu eich mesurau bioddiogelwch er mwyn sicrhau eu bod mor gadarn ac effeithiol â phosibl.

Dylai ceidwaid dofednod gadw golwg am arwyddion o glefyd yn eu hadar, gan gynnwys adar sydd newydd farw, a rhoi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw amheuaeth ar unwaith drwy enquiries@apha.gov.uk.

Mae gofyniad gorfodol i gofrestru gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) os ydych chi'n cadw mwy na 50 o adar. Fe'ch anogir hefyd i gofrestru gyda llai na 50 o adar fel y gellir hysbysu ceidwaid dofednod am achosion o glefydau fel Ffliw Adar. Gellir gweld canllawiau ar sut i gofrestru ar wefan y Llywodraeth.

10/12/2020