Ar ddydd Mawrth 30 Mehefin, bydd Theatr Felinfach yn lansio recordiad o un o glasuron T Llew Jones, sef nofel Tân ar y Comin gyda darlun o waith Gwenllian Beynon i gyd-fynd â’r stori. Dyma’r prosiect diweddaraf yn y gyfres Dychmygus, sef gweithgareddau creadigol digidol a ddarperir gan y theatr yn ystod cyfnod y clo mawr ar blatfformau Facebook, Trydar, Instagram a YouTube.

Gwaith yr artist o Bontrhydfendigaid, Gwenllian Beynon a welir yn y ffilm sy’n cyd-fynd gyda’r recordiad. Dywedodd Gwenllian: “Roedd yn her wahanol iawn i fi ymateb i stori a cheisio meddwl sut oedd cyfleu hynny mewn darn o waith arlunio fyddai’n dal y ddrama a’r emosiwn sydd yn y nofel. Roeddwn yn awyddus hefyd i’r gwaith celf gyd-blethu gyda’r naratif yn hytrach nag edrych fel “tiwtorial arlunio”.

Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Ro’n i’n awyddus i blant a phobl ifanc gael mynediad at glywed straeon Cymraeg yn ystod y cyfnod ynysig hwn, a phenderfynwyd mynd am un o glasuron Cymru, Tân ar y Comin oherwydd ei bod yn stori sy’n cynnig cyffro, emosiwn, gobaith a heriau. Un o brif nodweddion gwaith T Llew oedd creu darluniau gyda geiriau, a meddyliais y byddai’n gyffrous gofyn i artist ymateb i’r stori a chreu darn o waith i gyd-fynd â’r recordiad”.

Bydd y gwaith celf yn datblygu yn ystod bob pennod o Tân ar y Comin a recordiwyd gan y theatr ac a gaiff ei ryddhau yn wythnosol am 14 wythnos.

“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i deulu T Llew Jones ac i wasg Gomer am y caniatâd i gyhoeddi’r gwaith fel hyn a gobeithio y bydd gweld dehongliad Gwenllian o’r stori yn cydio yn nychymyg y gwrandawyr a’r gwylwyr!” meddai Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach.

Mae rhaglen Dychmygus, Theatr Felinfach yn cynnwys gweithgareddau wythnosol crefft, coluro i’r theatr, gêmau drama, straeon i blant bach a sgriptiau meicro i blant eu hactio. Mae hefyd sesiwn greadigol TicToc i blant bach yn cael ei rhyddhau bob pythefnos.

“Hud a lledrith cyfranogi creadigol a diwylliannol yw pobl yn dod at ei gilydd i gyd-greu, cyd-ddatblygu syniadau a chyd-ddathlu” medd Dwynwen “Mae bod ar wahân yn anodd ac yn ynysu rhai yn fwy na’i gilydd, ond mae platfformau digidol yn rhoi blas a bywyd newydd i waith grwpiau a lleoliadau creadigol ac yn gyfle i ni fel tȋm ddatblygu ein sgiliau. Tra y byddwn ni’n datblygu’r arlwy ddigidol yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn cynllunio a dychmygu’r dyfodol pan y gallwn ddod â phobl at ei gilydd i greu mewn modd diogel a chynhwysol.”

Bydd y bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar 30 Mehefin. Dilynwch y stori ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Theatr Felinfach ar Facebook, Twitter, Instagram ac ar YouTube.

 

18/06/2020