Mae Theatr Felinfach wedi hen ennill ei phlwyf fel enghraifft o ragoriaeth ym maes Celfyddydau a’r Gymuned a Chelf Gyfranogol, ond wrth gwrs fel y mwyafrif o fusnesau a sefydliadau eraill ar hyn o bryd mae’r Theatr ar gau.

Nid yw hyn serch hynny wedi ein hatal rhag cadw momentwm y bwrlwm a’r lliw a’r llawenydd sy’n mynd law yn llaw â’r adeilad nodedig a hoffus, ac mae calon y gymuned yn parhau i guro.

Ar ddechrau mis Ebrill, sefydlodd y Tîm Creadigol brosiect ‘Dychmygus’, gweithgareddau a syniadau creadigol i’w gwneud adref yn amrywio o ddramâu-meicro i fêc-ofyr cymeriad, creu cymeriadau neu fygydau allan o gardfwrdd a gemau amrywiol i’w chwarae fel teulu. Mae plant y staff hefyd wedi bod yn brysur yn creu posteri a negeseuon trawiadol o ddiolch ac anogaeth i’w rhoi yn yr arddangosfyrddau mawr ar ben hewl mynediad y Theatr.

Ers prynhawn Mercher, 6 Mai, mae enfys hardd wedi ei phaentio ar wal allanol yr adeilad yn glir i’w gweld wrth basio ar y brif ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan. Yn ogystal â hyn mae wal uchaf adeilad y Theatr ac agosaf at yr hewl mae rhesi penodol o frics yng nghanol y wal wedi eu paentio yn lliwiau’r enfys gyda chalon wedi ei dotio yma a thraw.

Dylan Williams, Rheolwr Llwyfan a Thechnegydd Sain y Theatr sydd wedi bod wrthi’n ddiwyd yn paentio’n gelfydd am nifer o ddiwrnodau ac mae e wedi gwneud jobyn ardderchog yn creu’r campwaith hapus hyn. Diolch Dylan, seren wyt! Mae’r enfys wedi tyfu’n symbol o obaith ac yn symbol o ddiolchgarwch i’r gweithwyr rheng flaen sy’n rhoi eu bywydau yn y fantol yn ddyddiol.

Rhwng creu’r deunydd creadigol gyda’i chydweithwyr, mae Sioned Hâf Thomas, ein Swyddog Dawns a Theatr wedi buddsoddi mewn argraffydd 3D ac wedi creu ‘visors’ amddiffynnol i’r wyneb. Llwyddodd Sioned i greu 27 o’r rhain a Dydd Mawrth, 5 Mai fe’u trosglwyddwyd i staff Cartref Gofal Bryntirion. Ymdrech arbennig Sioned.

Rydym hefyd am ddiolch i Ganolfan Addurno AAA, Llambed am eu rhodd hael o’r lliwiau llon a llachar ar gyfer y gwaith paentio! Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r ganolfan addurno erioed ac mae Ffion, merch Lynn a Gaynor wedi bod ar lwyfan y theatr mewn nifer o gynyrchiadau dros y blynyddau - o’r clwb drama cynradd i’r pantomeim Cymraeg.

Mae Theatr Felinfach yn meddwl am ein ffrindiau a’n cwsmeriaid yn gyson yn ystod yr amser anodd hyn ac rydym yn gobeithio bod yr haul yn gwenu arnynt. Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r holl weithwyr allweddol am ein cadw’n saff. Ceredigion sydd â'r nifer isaf o achosion o’r feirws wedi eu cadarnhau ledled Cymru, gadewch i ni sicrhau bod hyn yn parhau.

Tan y cawn gwrdd eto - Arhoswch yn ddiogel ac arhoswch adre.

11/05/2020