Ymwelodd swyddogion y Cyngor â Borth Wild Animal Kingdom ar 25 Mawrth er mwyn asesu a monitro sefyllfa lle’r oedd 3 antelop y gors wedi dianc.

Gallwn gadarnhau bod 3 antelop y gors wedi dianc o’r lloc yn y sŵ, un gwryw yn ei llawn dwf, un fenyw, ac un ifanc. Fodd bynnag, daeth yr un ifanc yn ei ôl yn fuan, ac fe gafodd ei ddal a’i roi yn ôl yn y lloc.

Mae’r antelop gwrywaidd yn cael ei gyfrif fel anifail categori 1 oherwydd hyd ei gyrn, ac felly cafodd ei lonyddu gyda dart a’i ddychwelyd i’r lloc yn hwyr brynhawn ddoe.

Mae’r antelop benywaidd bellach wedi’i dal ac wedi’i dychwelyd i’r lloc yn ystod yr oriau diwethaf.

Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am gadw draw oddi wrth y sŵ a’r cyffiniau yn ystod y cyfnod hwn.

26/03/2020