Dathlodd Gyn-filwr yr Ail Ryfel Byd a wasanaethodd yn y ‘Fyddin Anghofiedig’ yn y Dwyrain Pell ei ben-blwydd yn 100 oed yng Nghartref Tregerddan, Bow Street ar 11 Ionawr.

Fe gymerodd Mr Walford Hughes MBE - sydd bellach yn byw yng Nghartref Tregerddan - rhan mewn llawer o ymgyrchoedd yn yr Ail Ryfel Byd gan gynnwys yn Burma yn y Dwyrain Pell.

Gan fyth anghofio’r hyn a wnaeth ef a'i gyd-filwyr ei wynebu yn Burma, daeth Mr Hughes yn Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymdeithas Seren Burma rhywbryd ar ôl y rhyfel. Mae'r gymdeithas yn hyrwyddo'r frawdoliaeth a brofwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn Burma ac yn cefnogi cyn-filwyr yr ymgyrch a'u gweddwon neu wŷr gweddw. Dyfarnwyd yr MBE i Mr Hughes yn ddiweddarach am ei waith cydwybodol a diwyd i'r gymdeithas.

Ymunodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Peter Davies MBE; Consort y Cadeirydd, Mrs Barbara Davies a'r Cynghorydd Paul Hinge, y cynghorydd lleol a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y cyngor â Mr Hughes yn ystod y dathliad. Cyflwynwyd hamper iddo fel anrheg gan y cyngor.

13/01/2020