Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth â gwasanaethau a grwpiau cymunedol lleol, yn sicrhau bod gan fenywod a merched fynediad at gynnyrch hylendid i ferched.

Mae nifer o sefydliadau a grwpiau lleol wedi derbyn cyflenwad o gynhyrchion hylendid i ferched sydd ar gael i’w dosbarthu i unigolion sy’n wynebu caledi o fewn ein cymunedau.

Nod Cyngor Sir Ceredigion yw sicrhau bod tamponau, tyweli mislif, neu ddewisiadau amgen a chynaliadwy ar gael i fenywod a merched o gartrefi incwm isel yng Ngheredigion nad ydynt yn gallu eu fforddio.

Mae gan sefydliadau a grwpiau cymorth lleol gyfoeth o wybodaeth am eu hardaloedd lleol, a byddant yn gallu cefnogi’r rhai sydd mewn angen drwy sicrhau eu bod yn derbyn y cynhyrchion hyn yn ystod y cyfnod arbennig o heriol hwn.

I gael gwybod pa grwpiau neu sefydliadau sydd â chyflenwad yn eich ardal leol chi, cysylltwch â porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk.

I gael gwybod mwy am gymorth a grantiau eraill sydd ar gael i’r rheini sy’n wynebu caledi, ewch i’r adran ynghylch budd-daliadau ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/budd-daliadau.

25/06/2020