Yng nghyfarfod y Cabinet ar 17 Mawrth 2020, cymeradwywyd Polisi a Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r Cyngor wastad wedi bod â pholisi cwynion Corfforaethol ar waith sy’n ymdrin â’r rhan fwyaf o’r materion a gyflwynir gan y cyhoedd pan fydd ganddynt bryderon ynglŷn â gweithredoedd y cyngor. Nawr, mae gennym bolisi ychwanegol, mwy manwl, a chyfres o weithdrefnau sy’n ymdrin â chwynion yn ein lleoliadau gofal cymdeithasol. Mae’r ddau bolisi cwynion yn weddol debyg, ond mae rhai gwahaniaethau amlwg, megis penodi ymchwilwyr annibynnol pe bai cwyn yn parhau i fod heb ei datrys ar ôl derbyn ymateb cychwynnol y Cyngor.

Mae cymeradwyo’r polisi yn sicrhau y bydd arferion effeithiol yn eu lle i reoli cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â gofynion Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru).

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Bolisi a Pherfformiad. Dywedodd “Rydym ni fel Cyngor wedi ymrwymo i gymryd cwynion o ddifrif. Bydd y gweithdrefnau sydd wedi’u hamlinellu yn y polisi a gymeradwywyd yn ein galluogi i ddelio gyda chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn dull clir a chyson ledled y sir. Rwy’n hyderus y bydd y polisi’n helpu’r Cyngor i ddatrys cwynion yn brydlon ac yn y modd mwyaf effeithiol. Mae’n bwysig bod gan y Cyngor y polisi cwynion ychwanegol hwn gan fod nifer o’n defnyddwyr gwasanaeth ym maes gofal cymdeithasol yn unigolion bregus, ac mae’r polisi hwn yn cryfhau eu hawliau.”

18/03/2020