Yng nghyfarfod y Cyngor ar 5 Mawrth 2020, cymeradwywyd cyllidebau gwasanaethau Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2020/21 ar ôl derbyn y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar 25 Chwefror.

Dyma’r setliad gorau ar gyfer llywodraeth leol a’r Cyngor ers 2007/08, gan fod cynnydd o 4.2%. Mae hyn gyfystyr â chynnydd o £7.609m yng nghyllideb y Cyngor.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd y Cyngor. Dywedodd, “Rydym wedi gorfod torri £45m o’n cyllideb ers 2012. Er gwaethaf y toriadau enfawr hyn, mae’r Cyngor wedi llwyddo i ddarparu’r holl wasanaethau yr oedd yn ei ddarparu cyn y gwnaed y toriadau hyn, diolch i weithlu ymroddgar a ffyrdd creadigol ac arloesol o weithio. Mae’n rhyddhad na fydd Ceredigion yn derbyn toriadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21. Rwy’n croesawu’r cynnydd hwn yn y setliad a fydd yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau o safon i’n trigolion.”

Yn ogystal, yn rhan o’r broses o bennu’r gyllideb, cymeradwywyd cynnydd o 4% yng nghyfradd Treth y Cyngor. Er gwaethaf y setliad uwch, cynnydd o 4% yn Nhreth y Cyngor yw'r cynnydd lleiaf a fyddai'n arwain at gyllideb ddigyfnewid ac yn golygu na fydd angen gwneud rhagor o doriadau eleni.

Mae hyn yn golygu y bydd Eiddo Band D yng Ngheredigion yn talu £1,364.82 o Dreth y Cyngor bob blwyddyn. Mae hyn gyfystyr â chynnydd o tua £1 yr wythnos.

Cymeradwywyd y cynnig ar ôl i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion argymell y cynnydd er mwyn sicrhau nad oes rhagor o doriadau i wasanaethau'r Cyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gyllid a Diogelu’r Cyhoedd. Dywedodd “Dim ond tua 29% o gyllideb y Cyngor sy’n dod o Dreth y Cyngor ac Ardrethi Busnes. Rydym yn deall nad yw cynyddu Treth y Cyngor yn boblogaidd, ond bydd y cynnydd hwn yn Nhreth y Cyngor yn helpu i leddfu’r pwysau cynyddol a roddir ar gyllidebau gwahanol wasanaethau.”

Defnyddir fformiwla benodol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyfrifo’r cyllid a ddyrennir i bob Cyngor.

05/03/2020