Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau newydd i leihau lledaeniad y Coronafeirws.

Er mwyn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach, cyhoeddodd y Prif Weinidog fesurau newydd a fydd yn dod i rym am 6pm ddydd Gwener, 4 Rhagfyr, 2020:

  • Bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru gau am 6pm ac ni fydd hawl ganddynt weini alcohol unrhyw amser o’r dydd. Ar ôl 6pm, dim ond gwasanaeth tecawê y byddant yn gallu ei ddarparu.
  • Bydd yn rhaid i atyniadau i ymwelwyr a mannau adloniant dan do gau. Gall adloniant awyr agored ac atyniadau i ymwelwyr aros ar agor ond rhaid iddynt gau erbyn 6pm bob dydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno’r mesur canlynol:

  • Bydd £340m o gymorth arall i fusnesau drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau pellach i’r rheoliadau. Bydd yn cynnwys cronfa benodol i gefnogi busnesau lletygarwch a thwristiaeth.

Bydd rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut y gellir cael gafael arno ar wefan Busnes Cymru: https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cronfa-erf-busnesau-dan-gyfyngiadau.

Mae'r mesurau cenedlaethol presennol yn aros yr un fath. Ni fydd unrhyw newidiadau i’r ‘swigen’, faint o bobl sy'n gallu cyfarfod mewn mannau cyhoeddus dan do neu yn yr awyr agored neu gyfyngiadau ar fusnesau eraill.

Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel:

  • Cadwch bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth ei gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd;
  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
  • Gall aelwydydd ffurfio 'swigen' gyda'i gilydd - ni ellir cyfnewid, newid na hymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;
  • Caniateir i bobl gyfarfod ag eraill tu allan i'r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty lle mae protocolau diogelwch llym ar waith. Ond, pedwar person yw nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.
  • Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunanynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref yn unig i gael prawf. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Mae’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynglŷn â’r coronafeirws i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ceredigion www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws. Rhif ffôn Canolfan Gyswllt Gorfforaethol y Cyngor yw 01545 570881.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

 

04/12/2020