Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod Ceredigion wedi cofnodi ei chyfradd ailgylchu orau erioed o 72% yn 2019/20, sy’n golygu mai Ceredigion sydd â’r perfformiad gorau ond un o blith holl Awdurdodau Lleol Cymru.

Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y cyflawniad hwn, gan gynnwys cyflwyno system casglu gwastraff domestig newydd yn llwyddiannus ledled Ceredigion. Un ffactor allweddol fu sut mae trigolion lleol wedi cofleidio’r system newydd a’i chefnogi.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Dywedodd: “Mae’r newyddion gwych hwn yn adlewyrchiad o Garu Ceredigion ar waith. Mae trigolion Ceredigion, y Cyngor a'n partneriaid yn y diwydiant gwastraff wedi gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn. Mae gwella a chynyddu ailgylchu yn golygu yr ymdrinnir â gwastraff yn y ffordd fwyaf amgylcheddol a chost-effeithiol â phosibl. Mae'r targedau statudol ar gyfer ailgylchu yn uchelgeisiol ac yn heriol, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n trigolion a'n partneriaid i sicrhau ein bod yn parhau ar y trywydd iawn.”

Wrth i gyfnod y gaeaf ddechrau, rhoddir pwysau ychwanegol ar dimau gweithredol y Cyngor, gan gynnwys y tîm casglu gwastraff. Byddwn yn parhau â’n hymdrechion i ddarparu'r lefel orau bosibl o wasanaeth, fel yr ydym wedi'i wneud drwy gydol pandemig COVID-19. Hoffem estyn diolch diffuant i drigolion lleol am eu holl gefnogaeth, ac i aelodau ein timau casglu gwastraff am eu holl waith caled wrth ddarparu'r gwasanaeth casglu gwastraff newydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/adroddiad-rheoli-gwastraff-trefol-awdurdod-lleol-ebrill-2019-i-fawrth-2020  a https://myrecyclingwales.org.uk/cy

03/12/2020