Bu Adroddiad Blynyddol am Ganmoliaeth, Cwynion a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth – 2019/2020 tu blaen y Cyngor ar 10 Rhagfyr 2020.

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i'r Cyngor o’r ganmoliaeth, cwynion a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth (gan gynnwys Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) a dderbyniwyd gan yr Awdurdod yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am Bolisi, Perfformiad a Phartneriaethau, “Dyma'r adroddiad cyntaf mewn bron i ddegawd lle nad oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi dechrau dim ymchwiliadau nac wedi cyflwyno dim adroddiadau mewn perthynas â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor. Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod gwelliannau mawr yn parhau i gael eu gwneud ar draws y Cyngor mewn perthynas â'i drefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion a’i weithgarwch parthed Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Mae’r Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth wedi gweithio’n galed iawn i roi prosesau yn eu lle i gyrraedd y man hwn. Llongyfarchiadau mawr iddynt ar y cyflawniad hwn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu system y gwasanaeth a gwella cydymffurfiaeth â’r amserlenni i gefnogi ymrwymiad y Cyngor i fod yn agored a thryloyw gan ddatrys pryderon yn unol â’r ddeddfwriaeth.”

Rhoddir manylion penodol am y nifer a’r math y ganmoliaeth a dderbyniwyd, y gwahanol gamau cwyno, perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â'r rhain a gwybodaeth am gydymffurfio â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Mae yna hefyd adran ynghylch y cyswllt a dderbyniodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod adrodd, yn ogystal â Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon at y Cyngor.

Dyma fraslun o’r ffigurau o waith y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020:

  • 431 o Ganmoliaethau
  • 598 o Ymholiadau
  • 124 o Gwynion (85 yng Ngham 1 a 39 yng Ngham 2)
  • 31 o 'gysylltiadau' gan Swyddfa'r Ombwdsmon
  • 975 o geisiadau o ran Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
  • 7 Adolygiad Mewnol o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol Uchafbwyntiau

Mae’r Adroddiad yn unol a Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor bod Cyngor Sir Ceredigion yn sefydliad sy’n addas at y diben o ddarparu gwell gwasanaethau i fodloni anghenion ein dinasyddion.

Medrir gweld yr adroddiad llawn yma.

10/12/2020