Wrth i nifer achosion positif y coronafeirws yn ardal Aberteifi barhau i gynyddu, nawr yw'r amser i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i atal y feirws rhag lledaenu. Mae mesurau cymorth ychwanegol bellach wedi'u rhoi ar waith yn Aberteifi.

Dros y dyddiau diwethaf, daeth yn amlwg bod nifer fawr o achosion positif yn Aberteifi a'r cyffiniau gyda thystiolaeth o drosglwyddiad sylweddol yn y gymuned. Ar 12pm 25 Tachwedd 2020, mae gennym 55 achos positif sydd wedi’u cadarnhau yn ardal Aberteifi.

Mae Tîm Olrhain Cysylltiadau Ceredigion wedi cysylltu â’r rhai sydd wedi profi’n bositif yn yr ardal ac wedi casglu gwybodaeth sy’n cysylltu yn ôl i ddigwyddiadau ‘archledaenu’ fel partïon a chasgliadau cymdeithasol mawr o bobl mewn tafarnau yn Aberteifi dros y pythefnos diwethaf.

Mae nifer a lledaeniad achosion positif a'u cysylltiadau yn sylweddol ac yn fwy na 300 hyd yn hyn ac mae'r gyfradd ledaenu hon sy’n frawychus wedi cael effaith ar ystod eang o wasanaethau gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, tafarnau, caffis a siopau. Gwnaeth Tîm Rheoli Achos Lluosog Ceredigion y penderfyniad i gau pob ysgol yn yr ardal, y llyfrgell a Meithrinfeydd Dechrau'n Deg mewn ymgais i atal y feirws rhag lledaenu.

Rydym yn gofyn i'r holl drigolion a fynychodd dafarnau The Red Lion a The Bell Inn ar 09 Tachwedd 2020 neu ar ôl hynny i fod yn wyliadwrus iawn ac i hunan-ynysu ac archebu prawf ar unwaith os oes gennych unrhyw symptomau.

Mae busnesau y canfuwyd nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau’r coronafeirws wedi cael hysbysiadau cau neu hysbysiadau gwella a bydd arolygiadau pellach yn parhau dros y dyddiau nesaf.

Mae symptomau coronafeirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Fodd bynnag, mae ein timau olrhain cysylltiadau wedi clywed gan sawl achos positif bod ganddynt ychydig o symptomau neu ddim symptomau ar y dechrau. Mae llawer ohonynt yn dweud mai'r arwyddion cyntaf yw pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Felly rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

Rhaid i unrhyw un â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref dim ond i gael eich profi. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r gwaith na gadael y tŷ os oes ganddynt unrhyw symptomau - ystyriwch a diogelwch gymaint ag y gallwch bawb yn swigen eich aelwyd.

Mae cyfleusterau profi ychwanegol bellach ar gael yn Aberteifi ym Maes Parcio Cae'r Ffair. Gallwch wneud cais am brawf ar https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Bydd maes parcio Cae'r Ffair ar gau i'r cyhoedd nes clywir yn wahanol. Yn ogystal, bydd y Parth Diogel yn cael ei ailgyflwyno dros dro yn Aberteifi.

Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i allu atal y feirws hwn rhag lledaenu yn ein cymunedau. Bydd y camau rydych chi'n eu cymryd nawr yn diogelu’r rhai o'ch cwmpas. Dilynwch y canllawiau:

  • Cadwch bellter cymdeithasol 2m oddi wrth eich gilydd pan fyddwch chi allan o gwmpas – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd;
  • Gweithiwch gartref lle bynnag y bo modd;
  • Cyfyngwch eich cyswllt cymdeithasol. Mae hyn yn golygu peidio â chymysgu aelwydydd, peidio â chael partïon tŷ, plant ddim yn cwrdd â'u ffrindiau er mwyn cysgu draw yn nhai ei gilydd neu ar gyfer sesiynau chwarae neu i ymgynnull yn y dref;
  • Mae aelwydydd yn gallu ffurfio ‘swigen’ gydag un arall - ni ellir cyfnewid, newid, nac ymestyn y trefniant swigen hwnnw ymhellach nag un aelwyd;
  • Caniateir i bobl gwrdd ag eraill o'r tu allan i'r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty lle mae protocolau diogelwch llym ar waith, ond y nifer uchaf o bobl sy'n gallu cwrdd yw pedwar a hyd yn oed wedyn dylid cynnal pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd;
  • Gwisgwch fasg wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd eich gweithredoedd nawr yn penderfynu pa fath o Nadolig y byddwn yn gallu ei gael ac i gadw ein gilydd yn ddiogel.

Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

25/11/2020