Gwnaed pob ymdrech heddiw i ffonio'r holl rieni sydd wedi cofrestru eu plant ar gyfer ein darpariaeth gofal plant o ddydd Llun, 23 Mawrth 2020.

Peidiwch a throi fyny mewn lleoliad os na ydych wedi cofrestru a siarad gyda'r Cyngor. 

Rydym yn ddiolchgar am y sylwadau cadarnhaol a gafwyd gan yr holl rieni y siaradwyd â hwy. Hefyd, hoffem ailadrodd canllawiau Llywodraeth Cymru y dylai plant fod yn eu cartrefi os oes fodd i deuluoedd sicrhau hynny.

Os nad oes gan deuluoedd unrhyw ddewisiadau eraill o gwbl, rydym yn fwy na pharod i drafod gyda chi dros y ffon ar ddechrau’r wythnos er mwyn ceisio cynorthwyo'r gweithwyr gwasanaeth rheng flaen hyn gyda gofal plant. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i adolygu ein diffiniad o weithwyr gwasanaeth rheng flaen wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

21/03/2020