Bydd cynrychiolwyr o Wasanaeth Twristiaeth Cyngor Sir Ceredigion yn teithio i Ffair Wyliau Ryngwladol Vakantiebeurs yn ninas Utrech yn yr Iseldiroedd yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch farchnata i godi ymwybyddiaeth o Gymru a’r Gymraeg a denu ymwelwyr tramor allan o dymor i Gymru.

Mae’r daith yn rhan o brosiect sy’n cael ei arwain gan bartneriaeth rhwng Cynghorau Ceredigion, Gwynedd a Phenfro ar ran Croeso Cymru i hyrwyddo ‘Ffordd yr Arfordir’, sef un o dri llwybr teithio ymgyrch ‘Ffordd Cymru’ sy’n cynrychioli’r gorau o Gymru - y profiad a gynigiwn i ymwelwyr, ein lletygarwch a’n hatyniadau. Mae Ffordd yr Arfordir ynghyd â Ffordd y Gogledd a Ffordd Cambria yn ymgorffori popeth sy’n gwneud Cymru yn unigryw.

Meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Nod yr ymgyrch farchnata hon yw codi ymwybyddiaeth o Gymru mewn marchnadoedd rhyngwladol a thynnu sylw at yr amrywiaeth o atyniadau y gellir eu mwynhau mewn lleoliadau fel Ceredigion trwy gydol y flwyddyn, fel bod ymwelwyr yn aros yn hirach ac yn gwario mwy.”

Fel rhan o’r daith, bydd Côr Eryrod Meirion o ardal Meirionydd yn cynrychioli Cymru yn ffair Vakantiebeurs gan godi ymwybyddiaeth o Gymru, y diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg.

Adiodd Cynghorydd Evans, “Un o’r heriau wrth farchnata Cymru yw cyflwyno ein hiaith a’n diwylliant i weddill y byd mewn ffordd syml, gyfoes a deniadol ac mae cael cyfle i gydweithio gyda’r côr yn gyfle i wneud hyn.”

Bydd fidio hyrwyddo / ‘Flash Mob’ o’r côr yn perfformio yn y ffair yn ymddangos ar gyfrif cymdeithasol Darganfod Ceredigion https://www.facebook.com/visitceredigion/ ddydd Sadwrn 18 Ionawr.

17/01/2020