Wrth edrych tuag at flwyddyn newydd gyda’r gobaith am 2021 llai heriol, mwy caredig – mae criw Panto Felinfach wedi cadw pellter wrth ddod at ei gilydd i greu panto bach i’n harwain tuag at y Nadolig.

Mae gan Brwydr y Bylbiau – am Randi-bŵ holl gynhwysion arferol pantomeim Felinfach – dwli, drygioni a dôs o hud a lledrith a hynny o berspectif lleol a hiwmor cefn gwlad. Mae’r cast yn cynnwys actorion a chantorion o Geredigion a Sir Gâr a chorws bychan o bobl ifanc. Yn y cynhyrchiad ceir gyfraniadau dawns a chelf gan artistiaid lleol yn ogystal â gwaith celf gan blant a fydd yn ymddangos mewn 5 pennod ar rwydweithiau cymdeithasol Theatr Felinfach.

Mae stori’r panto yn ein hebrwng i Ddyffryn Aeron lle mae trigolion yr ardal yn gwneud ymdrech, er gwaetha’r cyfyngiadau cymdeithasol i ddod at ei gilydd o bell i ddathlu gŵyl a gobaith y Nadolig. Serch hynny, mae gan y Dynion Drwg, Brad Ŵr, Ben Ake a Lleu Slei gynllun i danseilio’r hwyl a’r ymwneud cymunedol. Mae Mr Ŵr wedi mwynhau 2020 yn enwedig y ffaith nad oes unrhyw weithgareddau cymdeithasol wedi tynnu pobl bach neis at ei gilydd i gydweithio a chyd-greu, a’i gynllun ef yw dwyn pŵer y Dyffryn - a hynny ymhob ffordd.

Dywedodd Uwch Swyddog Creadigol Theatr Ferlinfach ac un o’r tîm cynhyrchru: “Er gwaethaf gofid a heriau 2020, mae’r criw ysgrifennu, y cast a’r tîm cynhyrchu wedi cael hwyl aruthrol wrth ddod at ei gilydd yn rhithiol eleni. Roedd gweld pawb ar Zoom a Teams mor braf yn enwedig pan oedd y bantyr a’r chwerthin yn dechrau, mae wedi tanlinellu pa mor llesol yw cymryd rhan a dod at ein gilydd, hyd yn oed o bell.”

Mae Jaci Evans, sy’n chwarae rhan Ben Ake, ac sydd wedi perfformio mewn dros 40 pantomeim eleni hyd yn hyn wedi dysgu defnyddio Zoom er mwyn cymryd rhan. Meddai: “Feddyliais i byth y bydden i’n defnyddio Zoom. Heb sôn am wneud pantomeim dros Zoom!”

Treuliodd Jaci a’i frawd brynhawn bron ar y ffôn gyda Dwynwen o’r theatr, yn gosod Zoom ar liniadur Jaci a chysylltu gyda’i gilydd. Erbyn tua phedwar o’r gloch, cafwyd llwyddiant a’r her nesaf oedd mynychu ymarferion a recordio golygfeydd.

Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Er bod gennym fwriad ers misoedd i greu rhywfath o bantomeim ar ddiwedd 2020, rydym wedi gorfod addasu a newid y cynllun sawl gwaith mewn ymateb i’r cyfyngiadau a’r rheolau cymdeithasol. Er nad panto ar Zoom oedd ein dymuniad, mae wedi bod mor llesol i dynnu pawb at ei gilydd er mwyn creu rhywbeth ac mae’n wir i ddweud bod y broses llawn bwysiced os nad yn fwy pwyig na’r prosiect terfynol.”

Bydd “Brwydr y Bylbiau – Am Randi-bŵ” yn ymddangos ar lwyfannau rhwydweithiau cymdeithasol Theatr Felinfach mewn 5 pennod, yn dechrau nos Sul 20 Rhagfyr am 20:20 o’r gloch a’r penodau dilynnol am 20:20 o’r gloch hyd at noswyl y Nadolig.

15/12/2020