Am y tro cyntaf eleni, mae Mentrau Iaith Cymru yn cynnal cystadleuaeth genedlaethol i annog pobl ym mhob ran o Gymru i fynd ati i greu bwganod brain.

Yn aml iawn, mae creu bwgan brain yn gystadleuaeth poblogaidd mewn sioeau bach lleol ar draws y wlad, ond gyda’r sioeau hyn wedi’u canslo neu ohirio ar hyd a lled Cymru eleni, mae’r Mentrau am gynnal y gystadleuaeth hon i godi calon a dod â chymunedau ar draws Cymru ynghyd i gystadlu i ddarganfod Bwgan Brain Gorau Cymru a phencampwr Brwydr y Bwgan Brain 2020.

Er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yr hyn sydd angen i chi wneud yw creu bwgan brain ar thema ‘Cymru’. Anogir cystadleuwyr i ailddefnyddio ac ailgylchu’r hyn sydd ganddynt yn eu tai neu eu siediau eisoes a bod mor greadigol â phosib. Mi fydd angen i chi osod eich bwgan brain mewn safle diogel ac addas a gyrru llun o’ch campwaith i’ch Menter Iaith leol, Cered: Menter Iaith Ceredigion at cered@ceredigion.gov.uk erbyn 3 Awst. Rhannwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #bwganbrain. 

Mi fydd enillydd pob ardal yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol i gystadlu am wobr arbennig Brwydr y Bwgan Brain 2020 sef darlun unigryw a lliwgar o waith yr artist Rhys Padarn Jones. Y cyflwynydd radio a theledu adnabyddus a phoblogaidd Ifan Jones Evans fydd yn cael y dasg o feirniadu’r rownd genedlaethol a mi fydd Mentrau Iaith Cymru yn cyhoeddi’r enillydd cenedlaethol ar ddydd Llun, 17Awst.

14/07/2020