Mae Ysgol Bro Pedr yn y 25% uchaf o ysgolion a cholegau ledled Prydain gyfan gyda’u canlyniadau Safon Uwch.

Mae’r Ysgol 3-19 yn nhref Llanbedr Pont Steffan wedi derbyn tystysgrif yn hysbysu’r Ysgol bod canlyniadau Safon Uwch y tair blynedd ddiwethaf yn rhoi’r Ysgol yn y 25% uchaf o ysgolion a cholegau ledled Prydain gyfan.

Dywedodd y Cynghorydd Ivor Williams, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr, “Fel Llywodraethwyr, ry’n ni’n eithriadol o falch am hyn. Mae’n cydnabod y gwaith caled a’r ymroddiad gan staff ar draws Ysgol Bro Pedr – o’r cyfnod meithrin yr holl ffordd at yr arholiadau allanol yn 18 oed – ac yn dangos yn glir iawn bod hon yn ysgol wirioneddol dda sy’n cynnal safonau uchel ac yn cynnig cyfleoedd cyfoethog. Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion a staff yr Ysgol”.

Mae cwmni data ALPS yn seilio’r wybodaeth yma ar ganlyniadau Safon Uwch 2,668 o ysgolion a cholegau ym Mhrydain.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Braf yw clywed am lwyddiant ysgubol Ysgol Bro Pedr yn cyrraedd y 25% uchaf gyda’u canlyniadau Safon Uwch ar draws Prydain gyfan. Llongyfarchiadau gwresog i’r staff a’r plant am eu gwaith caled.”

21/01/2020