Os ydych chi rhwng 9 a 25 oed, ac yn chwilio am ffyrdd o gyrraedd lleoedd neu wella eich iechyd a'ch lles, efallai y gallech chi elwa o gael beic wedi'i ailgylchu am ddim drwy brosiect ysbrydoli pobl ifanc.

Mae Inspire, sef prosiect a ariennir gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion sy'n darparu cymorth wythnosol i bobl ifanc rhwng 16-24 oed gan ganolbwyntio ar wella iechyd a lles, bellach wedi cychwyn ar brosiect newydd 'Ar eich beic'. Mae grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Geredigion yn dod at ei gilydd mewn gweithgareddau wythnosol yn y gymuned gyda chymorth gweithwyr ieuenctid, lle maent yn gwneud gweithgareddau fel glanhau strydoedd, te prynhawn mewn cartrefi gofal preswyl a digwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau. Mae'r prosiect diweddaraf hwn wedi datblygu o gais am grant gan CAVO dan arweiniad pobl ifanc, lle nododd y grŵp gyfle i roi rhywbeth yn ôl i'w cymuned.

Dywedodd un o'r bobl ifanc sy'n mynychu'r prosiect, “Fe wnaethon ni lunio'r syniad achos rydyn ni'n gwybod nad oes llawer o blant yn berchen beic eu hunain. Mae’n nhw'n cael hi'n anodd mynd i lefydd a dydyn nhw ddim yn cael digon o ymarfer corff. Felly, fel grŵp, roedden ni eisiau gwneud rhywbeth lle gallen ni i gyd ddysgu sgiliau newydd fel trwsio ac ailgylchu beiciau a'u rhoi i bobl ifanc sydd eu hangen. Rydym wedi cael hyfforddiant gan arbenigwr ar feiciau ac rydym bron wedi gosod 3 beic a fydd yn barod i'w rhoi i bobl sydd eu hangen yn dilyn archwiliadau iechyd a diogelwch. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect gan ei fod ar gyfer achos da ac rwyf wedi ennill cymaint o hyder wrth gymryd rhan.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet dros Gwasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Meddai: “Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i dreulio amser gyda'r grŵp Inspire dros y flwyddyn ddiwethaf ac maent wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gwych sy'n helpu eu cymunedau. Mae hyn yn enghraifft arall o'u hymroddiad a'u hagwedd gadarnhaol i helpu pobl yn anhunanol. Bydd y prosiect 'Ar eich beic' yn agor llawer o gyfleoedd i bobl ifanc yn ogystal â rhoi cymorth i'r grŵp ddatblygu eu sgiliau ac ehangu eu gorwelion eu hunain. Hoffwn ddiolch iddyn nhw a'r gweithwyr ieuenctid sy'n darparu gwasanaeth mor bwysig wrth gefnogi a grymuso pobl ifanc i fod y gorau y gallan nhw fod.”

Pe baech yn elwa o gael beic wedi'i ailgylchu, neu os oes gennych hen feic y gellid ei roi i'r prosiect, cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion trwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol @GICeredigionYS neu trwy ffonio 01545 572352 neu e-bostio ieuenctid@ceredigion.gov.uk.

24/02/2020