Anogir trigolion lleol i beidio â cholli cyfle i leisio eu barn ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw drwy sicrhau bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol.

Gan y bydd etholiadau yn cael eu cynnal yng Ngheredigion ym mis Mai 2021, mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan.

Mae'r canfas blynyddol yn sicrhau y gall Gwasanaethau Etholiadol gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, gan nodi unrhyw breswylwyr nad ydynt wedi cofrestru neu sydd wedi symud.

Etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf y bydd pobl ifanc 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn gallu pleidleisio. Felly, mae’n bwysig iawn bod y grwpiau hyn o bobl yn cael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol.

Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Cofrestru Etholiadol: “Mae’n bwysig bod trigolion yn cadw llygad am negeseuon fel y gallwn sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn y sir. Er mwyn sicrhau eich bod yn gallu dweud eich dweud mewn etholiadau sy’n cael eu cynnal y flwyddyn nesaf, dilynwch y cyfarwyddiadau.

“Os nad ydych chi wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y negeseuon y byddwn yn eu hanfon. Os ydych chi eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote, neu byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn egluro sut i wneud hyn drwy’r post.”

“Mae canfas eleni, y mae’n rhaid i ni ei gynnal yn ôl y gyfraith, yn digwydd mewn sefyllfa heriol o ran iechyd y cyhoedd. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn ystyried canllawiau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys parhau i gynnal pellter cymdeithasol.”

Yn arbennig, anogir pobl sydd wedi symud yn ddiweddar i gadw llygad am y negeseuon ynglŷn â chofrestru pleidleiswyr gan Gyngor Sir Ceredigion a gwirio’r manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn nodi bod y rheini sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na’r rheini sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser hir.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru: “Mae’n bwysig iawn bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Erbyn hyn, mae gan fwy o bobl yr hawl i bleidleisio yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys. Bydd sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'ch awdurdod lleol pan fydd ei hangen yn sicrhau bod y broses yn rhedeg yn ddidrafferth. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol yn y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd, gan y bydd yn helpu i osgoi'r angen i ganfaswyr ymweld â chartrefi.

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chofrestru i bleidleisio ar y wefan yma: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr

Gall trigolion sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032.

14/08/2020