Diolch i grant 'Ymateb ac Ailddychmygu' yr Art Fund, bydd cwilt digidol arloesol yn cael ei greu ar gyfer arddangosfa gwiltiau a fydd yn croesawu ymwelwyr yn ôl i Amgueddfa Ceredigion. Y cwilt fydd yr arddangosyn cyntaf a fydd ar gael yn ddigidol ar gyfer ymwelwyr sydd ddim yn gallu dod i'r Amgueddfa yn gorfforol.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Mae’r amgueddfa wrth ei bodd yn derbyn y grant hwn. Bydd y cwilt digidol yn cofnodi profiadau pobl Ceredigion yn ystod pandemig COVID-19. Hefyd bydd y prosiect yn rhoi cyfle inni ymgynghori â chymunedau ynghylch y ffordd orau o'u gwasanaethu o hyn ymlaen wrth inni ddysgu i fyw gyda’r mesurau a gyflwynwyd i reoli'r haint.”

Bydd yr amgueddfa yn creu dau gwilt ar gyfer yr arddangosfa, y naill yn ffisegol a’r llall yn ddigidol. Gofynnwyd i’r rheiny sydd am gyfrannu anfon ffotograffau, darnau sain, ffilmiau, cerddi neu ddarluniau er mwyn gwneud y cwilt digidol gan esbonio pam eu bod wedi anfon y cyfraniad, beth mae’n ei olygu iddyn nhw a beth yw’r stori y tu ôl iddo. Bydd artist yn gweithio gyda chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cael llais hefyd.

Anfonodd Rose Thorn ffotograffau o gwilt i gyd-fynd â’r cwilt digidol. Dywedodd: “Mae haenau o ystyr yn perthyn i’r dyluniad hwn i mi. Mae’r triongl canolog yn nodi’r fasnach gaethwasiaeth sy’n rhan o hanes fy nghyndeidiau. Mae'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (BLM) wedi ysgogi llawer o bobl dduon i sôn am eu profiadau o hiliaeth yma yn y Deyrnas Unedig.  Es ar yr orymdaith yn Aberteifi gyda fy mhartner, Marie Lewis; roedd 150 o bobl yno, a oedd yn galonogol, ond mae llawer o bethau sydd angen eu newid... Mae'r cyfnod clo wedi gwneud imi fyw yn y presennol, wedi fy nghysylltu â’m gorffennol ac wedi gwneud imi feddwl sut yr wyf am fyw yn y dyfodol.”

Bydd proses yr arddangosfa yn ystyried y gwerthoedd yr hoffem eu gadael yn y gorffennol a'r rhai yr hoffem eu cymryd i'n dyfodol newydd, gan godi cwestiynau ymhlith y sawl sy’n cyfrannu a’r ymwelwyr, a hwyluso trafodaeth rhwng gwahanol gymunedau.

Mae'r Amgueddfa yn dal i gasglu cyfraniadau i'r ddau gwilt; y dyddiad cau ar gyfer y clytiau cwilt ffisegol yw'r ail o Hydref a'r dyddiad cau ar gyfer y cwilt digidol yw 27 Tachwedd. Mae'r Amgueddfa am i'r cwiltiau adlewyrchu amrywiaeth eang o brofiadau, yn rhai cadarnhaol a heriol, ledled Ceredigion - o'r rheiny sy'n gweithio ar y rheng flaen i'r rhai sy'n gweithio gartref, o'r rheiny sy'n dysgu sgiliau newydd, i rieni a drodd yn athrawon yn y cartref, o'r cenedlaethau hŷn a ddaeth ynghyd ar-lein i’r bobl ifanc fu’n partïo ar-lein. Gallwch anfon lleisiau, fideos, ffotograffau, barddoniaeth, darluniau, seinweddau, caneuon ac ati at carrie.canham@ceredigion.gov.uk

Mae grantiau 'Ymateb ac Ailddychmygu' yr Art Fund yn cynnig arian hyblyg ac ymatebol i fynd i’r afael â’r heriau uniongyrchol sy’n gysylltiedig ag argyfwng Covid-19 ac i ailddychmygu ffyrdd o weithio at y dyfodol. Yn y rownd gyntaf rhoddwyd 18 o grantiau o blith cyfanswm o 114 o geisiadau. Mae'r grantiau, a ddatblygwyd drwy ymgynghori ag amgueddfeydd ac orielau, yn cwrdd ag anghenion mewn pedwar maes blaenoriaeth sef casgliadau, cynulleidfaoedd, maes digidol a gweithlu. Hefyd gallant gefnogi costau sydd ynghlwm ag ailagor, yn ogystal ag ysgogi prosiectau creadigol ac arloesol wrth i sefydliadau geisio ailagor ar sail modelau gweithredu gwahanol iawn.

Bydd grantiau Ymateb ac Ailddychmygu yn darparu £1.5m yn 2020 i gefnogi amgueddfeydd, orielau, tai hanesyddol, llyfrgelloedd ac archifdai, yn ogystal â sefydliadau celfyddydol gweledol nad ydynt wedi’u seilio ar leoliad. Mae'n rhan o becyn cyllid Art Fund gwerth £2m i gefnogi amgueddfeydd drwy’r argyfwng. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf o grantiau Ymateb ac Ailddychmygu yw 17 Awst 2020, a bydd rownd arall, derfynol yn cael ei chynnal yn yr hydref.

 

18/08/2020