Wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws yn Aberteifi a’r cyffiniau barhau i gynyddu, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cymryd pob cam i helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach yn ein cymunedau.

Un o’r camau hyn yw cau ffyrdd unwaith eto dros dro ym Mharth Diogel Aberteifi er mwyn sicrhau y gall pobl gynnal y pellter cymdeithasol gofynnol wrth grwydro’r strydoedd. Diogelu iechyd a lles pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn yw ein prif flaenoriaeth o hyd. 

Daw’r Parth Diogel i rym o ddydd Iau 26 Tachwedd 2020 hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd y ffyrdd ar gau bob dydd rhwng 11am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd y ffyrdd yn aros ar agor ar ddydd Sul. Yn ystod y cyfnod hwn, caniateir i fysiau deithio drwy'r Stryd Fawr a Phendre.

Yn sgil yr ymchwydd yn nifer yr achosion yn ardal Aberteifi yn ddiweddar, mae’r Parth Diogel yn un ffordd o sicrhau y gall pobl gynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr ar bob adeg. Cofiwch, mae’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd;
    • Cyfyngwch ar eich cyswllt cymdeithasol;
    • Gweithiwch gartref lle bynnag y bo modd;
    • Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus o dan do, mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen we ynglŷn â’r Parthau Diogel: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/parthau-diogel/ ac mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r coronafeirws yng Ngheredigion ar gael yma: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

25/11/2020