Mae Ysgol Gyfun Aberaeron wedi cael ei wobrwyo â Gwobr Efydd Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr i gydnabod ei chefnogaeth a’i hymrwymiad i ofalwyr a’u teuluoedd. Ysgol Gyfun Aberaeron yw’r ail ysgol yng Ngheredigion i dderbyn y wobr hon.

Mae’r Wobr Lefel Efydd Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr yn gynllun safonau ansawdd partneriaeth ranbarthol, sy’n cael ei gyflenwi drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartneriaid trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Sir Ceredigion a Sir Benfro.

Heather West yw Swyddog Arweiniol Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Roedd hi’n bleser ymweld ag Ysgol Aberaeron i weld Mrs Anwen Davies, Dirprwy Bennaeth ac Arweinydd Gofalwyr yn cael ei chyflwyno â Gwobr Efydd Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr. Mae’r Wobr yn tystio i’r gwaith caled a wnaed gan Anwen a Nia Phillips, gyda chefnogaeth y Pennaeth, Owain Jones er mwyn derbyn yr anrhydedd hwn. Drwy nodi a chyfeirio Gofalwyr Ifanc, yn ogystal ag atgoffa pawb o bwysigrwydd ymwybyddiaeth o Ofalwyr, mae pob Gofalwr Ifanc yn cael y cymorth a’r wybodaeth sydd ei angen arnynt. Bydd Gofalwyr Ifanc yn sylweddoli nad ydynt ar eu pennau’u hunain wrth iddyn nhw wynebu’r her o ddilyn llwybr academaidd yn ogystal â gofalu am aelod o’r teulu gartref.”

Datblygwyd Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr yng Ngheredigion yn 2006, ac ers 2013 bu’n rhan hanfodol o Strategaeth Gofalwyr gyffredinol Gorllewin Cymru. Mae hefyd yn helpu i ddiwallu anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a blaenoriaethau cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer oedolion a phobl ifanc sy’n Ofalwyr.

Dywedodd Anwen Davies, Dirprwy Bennaeth ac Arweinydd Gofalwyr: “Mae anelu am y Wobr Efydd wedi rhoi ffocws clir inni fel ysgol o’r hyn sydd angen ei ddatblygu, ond mae hefyd wedi gwneud inni sylweddoli beth rydym eisoes yn ei wneud yn dda. Mae wedi bod yn her werth chweil, yn enwedig gyda chymorth y Tîm Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr.”

Cafodd y fenter Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr ei chynllunio’n wreiddiol i helpu cyfleusterau iechyd megis fferyllfeydd, meddygfeydd meddygon teulu ac ysbytai i ganolbwyntio ar, a chynyddu eu hymwybyddiaeth o ofalwyr, a gwella’r cymorth a’r gefnogaeth a roir i ofalwyr. Ers hynny mae’r cynllun wedi’i ddatblygu ar gyfer pob lleoliad addysg gydag ysgolion uwchradd a cholegau. Gellir hefyd ei roi ar waith ar draws sectorau cymunedol a busnes.

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun Buddsoddwyr Mewn Gofalwyr ewch i: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/carers neu i gael cyngor defnyddiol i ofalwyr ewch i www.ceredigion.gov.uk/gofalwyr.

13/11/2019