Ar 13 Medi, cynhaliwyd Cynhadledd Llais Y Disgybl yn Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron gyda chynrychiolaeth o bob ysgol uwchradd a bron a bob ysgol gynradd yng Ngheredigion yn mynychu’r digwyddiad.

Agorwyd y gynhadledd gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru a chafodd y disgyblion gyfle i drafod eu hawliau a’r pynciau llosg hynny sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Roedd yn anrhydedd enfawr i fynychu’r Gynhadledd Llais Disgybl cyntaf Ceredigion a hoffwn longyfarch y Cyngor Sir ar y gamp anhygoel o sicrhau bod pob ysgol yn cael ei chynrychioli. Roedd yn bleser trafod hawliau plant gyda'r plant a'r bobl ifanc a oedd yn bresennol a hoffwn ddiolch iddynt am y cwestiynau diddorol a heriol yr oeddent wedi'u gofyn imi ar y diwrnod.”

Yn ystod y bore, cafwyd hefyd y cyfle i ddysgu am waith y cyngor trwy anerchiad diddorol gan ei Arweinydd, Gynghorydd Ellen ap Gwynn, ynghyd a sesiwn holi ac ateb am waith a phrosesau’r cyngor.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn: “Mae’r gynhadledd wedi bod yn llwyddiannus iawn, mae'r holl blant i gyd wedi cyfrannu'n gyfan gwbl i'r trafodaethau a'r gweithdai. Mae eu brwdfrydedd yn y pynciau a drafodir yn dangos eu bod yn poeni'n gryf am faterion amserol ac y dylid ystyried eu barn lawn cymaint ag unrhyw un arall. Dyma’r digwyddiad cyntaf, mewn cyfres o ddigwyddiadau, sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer disgyblion rhwng oedrannau 8-14, er mwyn sicrhau bod Llais ein pobl ifanc wrth galon popeth a wnawn yng Ngheredigion.”

Bu’r disgyblion oll yn brysur trwy’r bore mewn gweithdai cyfranogi am y Cwricwlwm newydd i Gymru a hefyd am y Newid mewn Hinsawdd.

 

19/09/2019