Mae rhan o llwybr arfordir Ceredigion wedi rhoi ac mae wedi cael ei gau.
Mae rhan o’r llwybr rhwng Parc Carafán Helyg Fach i pentref Tresaith wedi ei gau. Gofynnir i aelodau’r cyhoedd i gadw draw rhag ofn y bydd symudiad pellach.
Mae staff Cyngor Sir Ceredigion wedi bod ar y safle. Mae arwyddion a rhwystrau wedi cael eu rhoi yn eu lle i atal y cyhoedd rhag defnyddio’r darn yna o lwybr.
Bydd yr arwyddion a’r rhwystrau yn eu lle tan bod Cyngor Sir Ceredigion yn archwilio’r safle dechrau wythnos nesaf.
Mae ein diolch yn mynd i aelod o'r cyhoedd a gododd y mater gyda'r Cyngor.
14/12/2019