Cynhelir digwyddiad Gŵyl Feicio Aberystwyth ar 18 Mai hyd at 27 Mai 2019. Bydd plant ysgol yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y ras am 10yb ar fore ddydd Sadwrn 25 Mai.

Eleni, mae Ceredigion Actif wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr y digwyddiad i gynnig cyfleoedd rasio i blant ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd hyn nid yn unig yn gwella eu sgiliau corfforol ond hefyd yn rhoi cyfle iddynt wneud ffrindiau newydd mewn modd diogel ac amgylchedd cyffrous.

Gall plant o flynyddoedd 3, 4, 5 & 6 gofrestru i gymryd rhan yn y rasys ysgol a noddir gan Ceredigion Actif ar wefan Abercyclefest o dan y pennawd 'Rasys Ysgolion'. Bydd hefyd gyfle i ddisgyblion blwyddyn 7 i 11 i gofrestru i gymryd rhan.

Elen James yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Diwylliant. Dywedodd, “Dyma nawfed flwyddyn yr Ŵyl feicio yn Aberystwyth ac rydym yn falch o weithio unwaith eto mewn partneriaeth â'r pwyllgor trefnu i gynnal rasys yr ysgolion. Mae beicio yn gamp sy'n tyfu ac mae'n allweddol nid yn unig i'n clybiau beicio ond hefyd fel ffordd ddiogel o deithio i'r ysgol ac fel gweithgaredd ardderchog i'r teulu. Mae rasys yr ysgolion yn rhoi cyfle i'r plant feicio'n ddiogel ar ffyrdd Aberystwyth.”

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am y digwyddiad, dilynwch AberCycleFest ar Facebook a Instagram a @gwylseicloaber ar Twitter.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad, cysylltwch ag Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol ar 01970 633 695 neu drwy e-bost ar alwyn.davies@ceredigion.gov.uk.

20/05/2019