Mae’r Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd wedi cael tair lori newydd i gefnogi gwasanaethau cynnal a chadw tir yng Ngheredigion.

Bydd y lorïau newydd yn symud offer gwasanaeth cynnal a chadw tir Cyngor Sir Ceredigion i’r tir y maent yn gofalu amdano. Bydd y lorïau hefyd yn cael gwared â glaswellt i’w gompostio. Dyma’r ffordd fwyaf effeithlon o gynnal y meysydd y mae’r tîm yn gyfrifol amdanynt.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol ynghyd â Thai. Dywedodd, “Mae’r cerbydau newydd yn disodli rhai a oedd wedi darparu gwasanaeth rhagorol am bron i 20 mlynedd. Maen nhw wedi’u gosod gyda pheiriannau Euro 6 sydd gryn dipyn yn fwy effeithlon ac yn well i’r amgylchedd.”

Mae’r Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd hefyd yn cyflwyno peiriannau torri porfa, chwythu a chlipio sydd wedi eu pweru â thrydan yn raddol i’w fflyd. Mae’r offer hwn yn well i’r amgylchedd ac mae’n haws i’w ddefnyddio ac yn achosi llai o sŵn a dirgryniad.

Mae’r lorïau newydd yn cefnogi ymrwymiad Cyngor Sir Ceredigion i fod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030.

27/08/2019