Mae teuluoedd sy'n mynychu Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan wedi ymuno â Chylch meithrin Carreg Hirfaen a gyda thrigolion a defnyddwyr gwasanaeth cartref preswyl a Chanolfan ddydd Hafan Deg i greu murlun lliwgar yng Nghartref Preswyl a Chanolfan Dydd Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan am breswylwyr ac ymwelwyr i'w mwynhau.

Mae Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan yn ymweld â thrigolion Hafan Deg a'r Ganolfan Ddydd yn rheolaidd i gadw'r cysylltiad rhwng pobl ifanc a hyn yn y gymuned.

Dywedodd Rachael Jones, Rheolwr Hafan Deg: "Diolch i'r staff a’r teuluoedd yng Nghanolfan Deuluoedd Llanbedr Pont Steffan am helpu i gynhyrchu murlun mor hyfryd yma yn Hafan Deg a Chanolfan Ddydd Llanbedr Pont Steffan – roedd y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth yn cael llawer o hwyl yn ymuno mewn a’i fod yn greadigol! Mae ein preswylwyr, defnyddwyr y gwasanaeth a'r staff bob amser yn edrych ymlaen at ymweliadau gan deuluoedd Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan - maent yn dod â llawer o lawenydd a hapusrwydd iddynt sy'n cynnig tonig i'n preswylwyr a defnyddwyr ein gwasanaethau."

Mae'r murlun yn darlunio Tref Llanbedr Pont Steffan.

Cynghorydd Catherine Hughes yw’r aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant a Diwylliant. Dywedodd, “Roedd yn wych gweld cymysgedd o oedrannau'n cymryd rhan yn y prosiect hwn. Mae'n bwysig ein bod yn cadw'r cysylltiad rhwng pobl ifanc a phobl hyn mewn cymunedau yng Ngheredigion, ac mae Canolfan Deuluol Llambed yn gwneud hynny’n union.”

Dywedodd Elin Vaughan-Miles, Cydlynydd Canolfan Deuluoedd Llanbedr Pont Steffan, "Mae wedi bod yn brofiad gwych i'r teuluoedd gael y profiad cyfoethog hwn, diolch i'r staff a thrigolion Hafan Deg am fod mor barod i adael i ni’n rhydd ar eu waliau! Roedd y plant wrth eu boddau'n bwrw ati ac rydyn ni i gyd yn hapus gyda'r murlun."

Mae Canolfan Deuluol Llambed ar agor pum diwrnod yr wythnos i unrhyw deulu sydd â phlant o dan 11 mlwydd oed. Mae’n Ganolfan mynediad agored ac yn darparu gwasanaeth i deuluoedd, am ddim, mewn amgylchedd anfeirniadol a chroesawgar.

Mae’r Ganolfan yn cynnig amryw o sesiynau drwy’r wythnos gan gynnwys grŵp babanod, clwb cinio a sesiynau iaith a chwarae i rieni a phlant bach. Maent hefyd yn cynnig sesiynau chwarae am ddim, gweithgareddau crefft a sesiynau ‘Mynd ar Grwydr”, sy’n hyrwyddo i’r gymuned y gwasanaethau sydd ar gael.

Mae Canolfan Deuluol Llambed wedi’i leoli yn Tŷ Eglwys, Y Stryd Fawr yn Llanbedr Pont Steffan. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â 01570 423847 neu e-bostiwch lampeterfamilycentre@gmail.com.

02/10/2019