Lansiwyd murlun mawr lliwgar ar 27 Chwefror 2019 ar y promenâd yn Aberystwyth. Dyluniwyd y murlun gan bobl ifanc o Geredigion a enillodd gystadleuaeth ddylunio a gynhaliwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

Ym mis Rhagfyr 2018, galwodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a thîm Economi ac Adfywio'r cyngor ar bobl ifanc rhwng 8-25 i helpu i addurno ardal ar hyd promenâd Aberystwyth drwy rannu eu syniadau creadigol. Mae’r ardal sy'n denu fandaliaeth yn rheolaidd bellach wedi'i droi mewn i furlun mawr, lliwgar yn adlewyrchu treftadaeth Aberystwyth, a'r hyn y mae Aberystwyth yn ei olygu i bobl ifanc.

Roedd yr ymateb i'r gystadleuaeth ddylunio yn wych. Dewisodd panel o bedwar beirniad bedwar enillydd allan o lawer o ddyluniadau dychmygus. Mwynhaodd y panel elfennau o bob un o'r pedwar dyluniad. Cyfunwyd y pedwar i greu un cynllun mawr gan yr arlunydd graffiti proffesiynol enwog, Lloyd the Graffiti.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu. Meddai, “Mae’r murlun yn ardderchog ac yn ddathliad o Aberystwyth. Mae’r dylunwyr ifanc wedi helpu adio darn newydd a chyffrous i Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr iddynt.”

Crëwyd y dyluniadau buddugol gan; Daisy Anderson o Glwb Ieuenctid Penparcau, Gwenno Evans o Brifysgol Aberystwyth, Phoebe Hinks o Ysgol Penglais a Carys Owen o Ysgol Penweddig. Cyflwynwyd gwobr i'r dylunwyr buddugol yn y lansiad. Darparwyd gwobrau gan Gyngor Sir Ceredigion a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

I gael rhagor o wybodaeth am waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i'w tudalen Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS neu ewch i'w gwefan www.giceredigionys.co.uk.

01/03/2019