Mae efelychydd Her y Gyllideb ar-lein yn rhoi cyfle i drigolion Ceredigion i ddangos sut maen nhw am i gyllideb y cyngor gael ei wario yn 2020-2021. Lansiwyd her y gyllideb ar 2 Medi a bydd yn cau ar 13 Hydref.

Bydd yr efelychydd yn caniatáu i breswylwyr ddangos sut y byddent yn torri £6m allan o gyllideb y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. £6m yw’r swm o arian y mae’r cyngor yn rhagweld y bydd angen ei arbed yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd trigolion yn cael eu herio i dorri’r gyllideb drwy leihau’r swm y maent yn ei wario ar wasanaethau’r cyngor.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Gyllid. Dywedodd, “Mae toriadau o lywodraeth ganolog a phwysau cynyddol ar gostau yn golygu ein bod wedi gorfod gwneud toriadau i feysydd gwasanaethau. Bob blwyddyn mae gennym y dasg sydd bron yn amhosibl o osod y gyllideb sydd am gynnig y gwasanaethau gorau i drigolion, wrth cael ein gorfodi i wneud toriadau i gyllidebau.”

“Eleni, rydym am roi’r cyfle i drigolion ddangos i ni sut y bydden nhw’n gosod ac yn torri cyllideb y cyngor. Wedi’r cyfan, eu gwasanaethau hwy sy’n cael eu heffeithio. Ar ôl blynyddoedd o doriadau gan lywodraeth ganolog, mae gwasanaethau’r cyngor yn disgyn i’r asgwrn; felly mae unrhyw doriad pellach yn mynd i fod yn boenus a bydd yn cael effaith ar wasanaethau. Dyma realiti’r rydyn ni’n ei wynebu, ac rydyn ni eisiau i’r preswylwyr ddweud eu dweud am sut y dylid gwneud hyn.”

Er bod yn her ar-lein yn unig, bydd preswylwyr sydd am gymryd rhan ond sy’n methu â chwblhau’r her ar-lein yn gallu cael cymorth digidol gan lyfrgelloedd y cyngor. Gallant alw i archebu slot mewn llyfrgell drwy ffonio 01545 570 881.

Ar ôl i’r cyfranogwyr osod y gyllideb, gellir cyflwyno’r canlyniadau. Bydd y data a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio i baratoi adroddiad dadansoddi. Bydd yr adroddiad yn cael ei roi i gynghorwyr cyn iddynt bennu’r gyllideb ar gyfer 2020-21. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried ar y cyd â thystiolaeth arall megis dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y cyngor.

03/09/2019