Yr hyn y credir ei fod yn Wasanaeth Sul cyntaf ers Hydref 1876 a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr Hen Gapel yn Llwynrhydowen ger Llandysul pan gynhaliodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Peter Davies MBE ei Wasanaeth Dinesig yn y Capel.

Daeth y Capel yn enwog wedi i'r cyngheiriaid yn 1876 gael eu gwrthod mynediad i'r Capel gan y Sgweier o blasty Alltrodyn a oedd yn cloi gatiau'r capel. Roedd y Sgweier wedi bod yn anhapus gyda'r hyn a welai fel pregethau gwleidyddol yn cael ei pregethu yn y Capel gan y Gweinidog.

Mae gan y gynulleidfa ar y pryd gysylltiadau â phersonau adnabyddus; Y Gweinidog, Gwilym Marles oedd ewythr mawr y bardd Dylan Thomas. Yn wir, enw canol Thomas yw Marles, a enwir ar ôl ei ewythr. Mae Frank Lloyd Wright, y pensaer byd enwog, hefyd yn ddisgynnydd i’r gynulleidfa. Ymfudodd ei deulu i America wedi i'r capel gael ei gau.

Cafodd y casgliad yn ystod y gwasanaeth ei gyfrannu i Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru i helpu gyda chynnal yr Hen Gapel.

19/09/2019