Cynhelir Gala Gomedi yn Theatr Felinfach ar nos Wener, 13 Medi am 8yh. Bydd nifer o wynebau hen a newydd yn cymryd rhan. Dyma ychydig o hanes rhai o’r comediwyr a fydd yn cymryd rhan ar y noson.

Mae Steffan Evans yn gomedïwr gyda golwg unigryw ar y byd. Daw’r hanner hambon o Eglwyswrw yn Sir Benfro a bu’n cefnogi Elis James ar ei daith genedlaethol yn 2017. Bu hefyd yn perfformio ar sioeau comedi S4C ‘Gwerthu Allan’ ac ‘O’r Diwedd’. Mae’n gyfranwr cyson ar wefan ddigidol ‘BBC Sesh’.

Ymddangosodd Esyllt Sears ar restr 'Rhai i'w Gwylio' - Menywod mewn Comedi (allan o 400 o gomediwragedd eraill) yng nghystadleuaeth ‘Funny Women’ yn 2017. Mae Esyllt wedi ymddangos ar Stand-yp y BBC (S4C) ac wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o raglenni yn cynnwys, ‘The Now Show’ (BBC 4).

Mae Priya Hall yn llais cyffrous newydd mewn comedi Cymraeg. Mae Priya wedi ymddangos ar ‘Pwnc Pum Munud’ ar S4C ac ar ‘BBC Sesh’.

Comedïwraig llawn llawenydd yw Beth Jones sydd wedi perfformio ar draws y wlad, gydag ymddangosiadau ar ‘Pwnc Pum Munud’, ‘Gwerthu Allan’ (S4C) a ‘Comedy Club @ Machynlleth’ (Radio 4 Extra).

Mae Dan Thomas yn un o hen wynebau’r sîn gomedi yng Nghymru a thu hwnt. Mae e wedi perfformio ar draws Ewrop ac wedi ymddangos ar raglenni fel ‘Gwerthu Allan’ a ‘Stand-Yp’ o’r BBC.

Bydd y noson yn cychwyn am 8yh yn y Lolfa, Theatr Felinfach.

Mae tocynnau yn £10 i oedolion, £9 i bensiynwyr ac £8 i fyfyrwyr a phlant uwchradd. Maent ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein drwy ymweld â theatrfelinfach.cymru.

Canllaw Oedran: 16+

15/08/2019