Mae tri pholisi rheoli gwybodaeth allweddol wedi cael eu diweddaru gan Gyngor Sir Ceredigion. Cafodd y polisïau eu diweddaru oherwydd deddfau newydd a'r angen i sicrhau eu bod yn effeithiol mewn amgylchedd technolegol newidiol.

Cymeradwywyd y polisïau wedi'u diweddaru gan Gabinet y cyngor mewn cyfarfod ar 19 Chwefror 2019.

Dyma’r tri pholisi sydd wedi cael eu hadolygu:

  • Polisi Diogelu Data/GDPR
  • Polisi Diogelu Gwybodaeth
  • Polisi Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion

Y Cynghorydd Ray Quat MBE yw Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Lywodraethu. Dywedodd e, “Mae angen i'r cyngor gadw gwybodaeth a data er mwyn cyflawni'r nifer o wasanaeth rydym yn ei ddarparu. Oherwydd hyn mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod cadw at y deddfau diogelu data a gwybodaeth ddiweddaraf. Mae'r penderfyniad hwn yn golygu ein bod wedi cymeradwyo'r gwaith caled i ddiweddaru'r polisïau a gwneud yn siŵr eu bod yn addas i'w defnyddio.”

Mae'r polisïau'n hanfodol er mwyn rheoli cofnodion digidol a phapur y cyngor.

19/02/2019