Mae’n bleser gan Theatr Felinfach gyhoeddi y bydd dangosiad ym mis Chwefror 2019 o Milwr yn y Meddwl, drama fuddugol Medal Ddrama 2017 sy’n cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Cafodd Milwr yn y Meddwl, drama gan Heiddwen Tomos, ei llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, yn dilyn llwyddiant y ddrama yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017. Bydd dangosiad ar sgrin sinema o’r cynhyrchiad yn Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron, 8 Chwefror 2019. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Heiddwen Tomos yw awdur Milwr yn y Meddwl. Yn wreiddiol o Gwrtnewydd, mae Heiddwen yn byw ym Mhencarreg, Llanybydder, ac yn Bennaeth Cyfadran y Celfyddydau Mynegiannol, Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Yn 2017 cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon (Gwasg Gomer), ac mae hi hefyd wedi cyhoeddi straeon gyda Gwasg y Bwthyn. Lansiwyd ei nofel ddiweddaraf, Esgyrn (Y Lolfa) ym mis Rhagfyr 2018.

Jac Ifan Moore oedd cyfarwyddwr y ddrama. Yn 2015, bu Jac yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar {150}, cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, a bu’n dilyn hyfforddiant cyfarwyddo gyda Theatr y Sherman fel rhan o’u cynllun Grŵp Cyfarwyddwyr JMK/Sherman, gyda chefnogaeth gan The Carne Trust. Mae Jac hefyd yn gyd-gyfarwyddwr artistig cwmni theatr PowderHouse, cwmni preswyl presennol y Sherman, a fydd yn cyflwyno ei gynhyrchiad cyntaf, Saethu Cwningod/Shooting Rabbits, yn Theatr y Sherman a nifer o ganolfannau eraill yn hwyrach eleni. Aled Bidder, Ceri Murphy, Elin Phillips a Phyl Harries sy’n actio rhannau Huw, Ned, Michelle a Gor yn Milwr yn y Meddwl.

Mae Milwr yn y Meddwl yn ymdrin â chyflwr PTSD, ac yn dilyn stori cymeriad o’r enw Ned sydd wedi dod yn ôl adref i orllewin Cymru o faes y gad. Mae ei brofiadau diweddar yn Rhyfel Irac wedi gadael creithiau dyfnion; rhai’n greithiau gweledol, ac eraill – y rhai dyfnaf – yn anweledig. Dyma ddrama newydd, ddirdynnol sy’n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymro, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau dychrynllyd o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Mewn stori oesol am gariad a pherthyn, a fydd cwlwm câr yn drech na’r bwled a’r bom?

Cyflwynwyd y cynhyrchiad hwn fel rhan o Theatr Gen Creu, cynllun arloesol Theatr Genedlaethol Cymru i ddatblygu gwaith newydd ac i hybu talent. Cyflwynir y dangosiad hwn ar sgrin fawr fel rhan o’r fenter Theatr Gen Byw, yn dilyn llwyddiant dangosiadau ar sgriniau sinema ledled Cymru o gynhyrchiad y cwmni o glasur Shakespeare, Macbeth (trosiad y diweddar Gwyn Thomas) yn 2017.

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, “Bwriad Theatr Gen Byw yw cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach gyda chynyrchiadau theatr a luniwyd yn arbennig ar gyfer digwyddiadau neu leoliadau penodol. Mae sgriniadau o gynyrchiadau theatr (byw ac wedi eu recordio) wedi bod yn ddatblygiad cyffrous ym myd y theatr yn y blynyddoedd diwethaf, gydag NTLive, a sgriniadau o waith yr RSC a chwmni Opera Covent Garden wedi hen ennill eu plwyf. Mae Heiddwen yn llais newydd hynod o gyffrous ym myd y theatr Gymraeg, ac mae ei gwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei chymuned. Rydym yn hynod falch felly bod modd i ninnau, trwy gyfrwng Theatr Gen Byw, ddangos drama fuddugol Heiddwen Tomos ar sgrin sinema yn ei hardal leol.”

29/01/2019