Cynhelir cwrs undydd AM DDIM ar gyfer gyrwyr hŷn sydd yn 65 blwydd oed neu yn hŷn ar 28 Chwefror, 7 Mawrth a 22 Mawrth.

Cynhelir y cwrs yn Aberystwyth, rhwng 10yb a 3yp i bob un o’r diwrnodau yma.

Bydd y cwrs yn rhoi’r cyfle i bobl ddysgu o arbenigedd gweithwyr Diogelwch y Ffyrdd proffesiynol a Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy. Anela’r cwrs i wella sgiliau presennol a gwybodaeth tra cyflwyno syniadau megis sut i ymdrin â sefyllfaoedd llawn straen ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol i gadw gyrwyr hŷn i yrru yn ddiogel am hirach.

Dywedodd Geraldine, a wnaeth mynychu’r cwrs o flaen, "Diolch yn fawr iawn i bawb a oedd yn gysylltiedig am y cyfle hwn i fynd yn ôl i'r sedd yrru. Cyn diwrnod y cwrs, nid oeddwn wedi gyrru ers gynnar 2013, ar ôl damwain a arweiniodd at dorri calch. Dywedais wrthyf fy hun nad oedd yn syniad da gadael i'm gŵr yrru bob amser, ond sbardunodd y cwrs i mi weithredu a rhoddodd yr hyder i mi fynd yn ôl y tu ôl i'r olwyn.”

Nid prawf yw’r cwrs. Mae’r cwrs yn cynnwys trafodaethau grŵp sy’n cael eu harwain gan gyflwynydd cyn cael y cyfle i yrru gyda Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Oedolion, ac Eiriolwr 50+ y Cyngor, “Mae gan ein sir nifer o ardaloedd wledig ac mae’r gallu i barhau gyrru fel ni’n heneiddio, yn hollbwysig i lawer o drigolion Ceredigion, i gynnal ffordd o fyw yn annibynnol. Wrth i ni heneiddio, mae’n aml yn syniad da i edrych eto ar yrru, ac ystyried os gall cwrs diweddaru fod yn ddefnyddiol. Beth am gymryd y cyfle perffaith hwn, mae am ddim ac nid yw ond yn cymryd diwrnod i'w gwblhau "

Does dim rhaid i bobl ddod â char i’r sesiwn gan fydd car yn cael ei ddarparu gan ddarparwyr y cwrs. Cysylltwch â Kayleigh Tonkins, Swyddog Prosiect Diogelwch y Ffyrdd gan ffonio 01545 570881 neu ebostiwch clic@ceredigion.gov.uk am fanylion pellach am y cwrs.

The course is being held by Ceredigion County Council, with funding from Welsh Government.

29/01/2019