Cynhelir parti gardd ar gyfer gofalwyr ar 11 Ebrill rhwng 12 a 3yp a drefnir gan fyfyrwyr o Goleg Ceredigion sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer eu cymhwyster BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3.

Anelir y parti gardd a ariennir gan Gyngor Sir Ceredigion tuag at ofalwyr o bob oed ac o bob sefyllfa ar draws Ceredigion i fwynhau, ymlacio â theimlo fel eu bod yn cael ei gwerthfawrogi. Yno, gall gofalwyr fwynhau amser gyda’r person sydd yn derbyn gofal, a disgyn eu ‘het gofalwyr’ am brynhawn.

Mae Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn cwrdd â'r myfyrwyr bob pythefnos i roi cymorth ac arweiniant. Mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio'n galed i drefnu’r Parti Gardd gyntaf i greu man hygyrch lle gall gofalwyr cymdeithasu, cyfarfod â gofalwyr eraill, a mwynhau’r gerddoriaeth ac adloniant eraill.

Y cynghorydd Catherine Hughes yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Plant a Diwylliant ac yn hefyd Aelod Eiriolwr ar gyfer Gofalwyr. Dywedodd, “Mae hwn yn ddigwyddiad gwych i ofalwyr yng Ngheredigion sydd â diddordeb mewn prynhawn llawn adloniant a cherddoriaeth. Mae'r myfyrwyr wedi gweithio'n galed iawn i drefnu'r digwyddiad hwn yn arbennig ar gyfer gofalwyr yng Ngheredigion. Hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr ar ran Cyngor Sir Ceredigion am eu gwaith caled.”

Os hoffech ddod i’r digwyddiad ond nad ydych yn siŵr sut y gallwch wneud hynny, efallai y bydd yr Uned Gofalwyr yn gallu dod o hyd i’r cymorth cywir i chi. Mae’r digwyddiad am ddim ac fe’i cynhelir yn y Hwb Cwrt Mawr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond bydd angen i chi archebu eich lle.

Cysylltwch â’r Uned Gofalwyr i archebu eich lle ar 01970 633564 neu drwy e-bost ar carersunit@ceredigion.gov.uk i dderbyn fwy o wybodaeth.

29/03/2019