Cynhelir dwy sesiwn wybodaeth yn Nhregaron a Pontrhydfendigaid ar 13 a 14 Mai er mwyn i drigolion gael gwybodaeth am gynllun Caron Cynnes. Cynllun newydd yw Caron Cynnes i helpu cartrefi cymwys o fewn ardal Tregaron a’r pentrefi cyfagos i gael systemau gwresogi canolog a osodwyd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus i gael arian i osod systemau gwresogi canolog mewn eiddo sydd heb systemau gwresogi canolog llawn ar hyn o bryd. Nid yw gwresogyddion storio neu foeler cefn sy'n rhedeg ychydig o reiddiaduron yn cael eu hystyried yn system wres canolog lawn.

I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, rhaid bodloni'r holl feini prawf canlynol:

i) Mae’n rhaid i’r eiddo fod yn aneffeithlon o ran ynni;
ii) Ni ddylai’r eiddo fod â system gwres canolog llawn; a
iii) Bod yr aelwyd ar incwm isel.

Mae City Energy Network wedi cael eu penodi i gyflawni'r prosiect, maent wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion am y flwyddyn a hanner ddiwethaf yn cyflwyno cynllun Hyblygrwydd Awdurdodau Lleol ECO yn yr ardal.

I gael gwybod a ydych chi'n gymwys, ac i gael mwy o wybodaeth am y cynllun, cynhelir sesiynau agored yn:
• Y Neuadd Goffa, Tregaron ar ddydd Llun 13 Mai, o 3yp i 7yh.
• Yr Ystafell Gemau, Neuadd Pentref Pantyfedwen Pontrhydfendigaid ar ddydd Mawrth 14 Mai o 2yp i 7yh.

Os hoffech drafod y cynllun hwn, cysylltwch â City Energy Network ar 02920 499 183, neu e-bostiwch info@cityenergy.org.uk.

Dim ond cartrefi o fewn yr ardal o Dregaron a’r pentrefi cyfagos sy’n gallu ceisio am y cynllun. Mae’r pentrefi sy’n gymwys yn cynnwys Llanddewi Brefi, Pontrhydfendigaid, Ystrad Meurig, Swyddffynnon, Llanilar, Llanfair Clydogau, Llwynygroes, Llangeitho, Blaenpennal, Bontnewydd, Bronant, Swyddffynnon, Ffair Rhos, Ysbyty Ystwyth, Pontrhydygroes, Lledrod a Llanafan. Yn dibynnu ar faint o geisiadau llwyddiannus a dderbynnir, gellir ystyried pentrefi y tu allan i'r ffin hon ar gyfer y cynllun.

07/05/2019