Bydd pobl ifanc ardal Llandysul yn ymgymryd â rôl newydd ddiwedd y mis wrth iddyn nhw ymuno a Chriw Cered - sef criw gwirfoddolwyr Cered: Menter Iaith Ceredigion. Bydd y criw ifanc yn cynorthwyo gyda threfniadau cyngerdd ‘Llwybrau Robat Arwyn’ sydd i’w gynnal yn Ysgol Bro Teifi Nos Sadwrn, 26 Ionawr am 7.30yh.

Bwriad cynllun Criw Cered yw rhoi cyfle i bobl ifanc wirfoddoli yn eu cymuned gan gyfrannu at weithgareddau amrywiol megis gigs cerddorol, gwyliau, arddangosfeydd a digwyddiadau eraill. Gall aelodau Criw Cered gyfrannu mewn amryw ffordd - trwy eistedd ar bwyllgor trefnu, cymryd gofal o artistiaid, stiwardio, gwerthu tocynnau ac ati. Mae’n gyfle gwych iddynt gydweithio, creu ffrindiau newydd a chymdeithasu.

Mae Criw Cered eisoes wedi cyfrannu at ddigwyddiadau eraill yn y sir megis Gŵyl y Cynhaeaf yn Aberteifi. Y bwriad yw ymestyn y cynllun eleni i gynnwys gwirfoddolwyr o bob oedran gan weithio gyda sefydliadau a gwyliau eraill yn y sir.

Meddai Llywelyn Jones trefnydd cyngerdd Llwybrau Robat Arwyn: “Mae’n hyfryd cael gwirfoddolwyr Cered yn gefn i’r gyngerdd hon. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr am eu cymorth gyda threfniadau’r noson. Fe fydd hwn yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, arwain a gwaith tîm a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg”.

Am docynnau i’r gyngerdd, cysylltwch â Cered ar 01545 572350. Mae tocynnau hefyd ar werth yn Awen Teifi, Siop Ffab, Siop Inc, Masnachdy Felinfach a Fan Bost.

17/01/2019