Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Awdurdod Lleol 2019 yng ngwobrau Cefnogaeth Gymunedol 2019, sef seremoni wobrwyo a drefnir gan Sponsor Refugees.

Mae Ceredigion yn un o ddim ond pum awdurdod lleol ledled y DU sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y wobr fawreddog hon am weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol lleol sydd am helpu teuluoedd sy’n ffoi rhag rhyfel, newyn a digartrefedd.

Lansiwyd Cefnogaeth Gymunedol yn 2016 gan y Swyddfa Gartref ac mae’n rhoi gallu i grwpiau gwirfoddol lleol ailsefydlu teulu ffoaduriaid yn eu cymuned. Mae’n rhaid i’r cyngor fetio pob cynllun cyn y gellir ystyried ei gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref, a fydd wedyn yn paru ffoaduriaid â’r grŵp cymunedol.

Mae dau gynllun Cefnogaeth Gymunedol - Aberaid a Croeso Teifi - eisoes wedi’u sefydlu yng Ngheredigion. Mae’r ddau gynllun yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac maent wedi ailsefydlu dau deulu yr un o dan Gefnogaeth Gymunedol. Yn ogystal â dod o hyd i lety addas, mae grwpiau Cefnogaeth Gymunedol yn helpu teuluoedd o ffoaduriaid i adsefydlu mewn cymunedau lleol, gan eu cyfeillio a’u helpu i addasu a chwrdd â’r heriau anochel o fyw mewn amgylchedd cwbl newydd.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac mae’n Gadeirydd Grŵp Ailsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr hon. Yn ogystal ag adsefydlu dros 40 o ffoaduriaid Syriaidd ein hunain, rydym hefyd wedi cefnogi ceisiadau dau grŵp cymunedol i wneud yr un peth. Rydym wedi rhoi cymorth a chyngor i’r grwpiau o ran sut y gallant sefydlu eu hunain a sicrhau bod y gwersi rydym wedi’u dysgu yn cael eu rhannu. Rydym hefyd ar gael i roi cyngor a chymorth os oes problemau’n codi. Rydym hefyd yn dysgu oddi wrth y grwpiau yma, sy’n ymroddgar ac yn weithgar iawn, ond yn gweld y gwaith yn rhoi boddhad mawr.”

Mae Aberaid a Croeso Teifi yn dangos bod Ceredigion yn sir agored a gofalgar. Maent wedi gwneud gwaith gwych yn helpu hyd yn oed mwy o ffoaduriaid i ddianc rhag y perygl a wynebant yn Syria. Rhyngddyn nhw, maen nhw wedi helpu pedwar teulu i adsefydlu yng Ngheredigion. Rydym hefyd yn annog cymunedau eraill yng Ngheredigion i ystyried cymryd rhan mewn nawdd cymunedol i helpu mwy o deuluoedd anghenus i ddianc rhag gwrthdaro.”

Dywedodd Bekele Woyecha, Uwch Reolwr prosiect yn Sponsorship Refugees: "Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant Cefnogaeth Gymunedol i ffoaduriaid. Eleni cawsom enwebiadau gwych a haeddiannol ar gyfer gwobrau Cefnogaeth Gymunedol 2019. Straeon sy’n cynhesu’r galon o gydweithrediad a phartneriaeth rhwng grwpiau lleol ac awdurdodau lleol. Llongyfarchiadau i Gyngor Ceredigion ar gael ar fod ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau.”

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Llundain ar 8 Hydref.

03/09/2019