Mae’n Wythnos Diogelwch y Teulu rhwng 23 a 27 Ebrill ac i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch sy’n ymwneud â seddi car plant, mae Tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Ceredigion yn dymuno tynnu sylw at y gwasanaeth gwirio seddau ceir plant sy’n rhad ac am ddim y maent yn darparu i drigolion Ceredigion.

Dywedodd Kayleigh Tonkins, Swyddog Prosiect Diogelwch y Ffyrdd, “Mae’r Tîm Diogelwch y ffyrdd yn cynnig archwiliad sedd car plant rhad ac am ddim ar draws y sir mewn gwahanol ganolfannau teulu, neu i unigolion sydd yn gallu teithio i Aberaeron. Gallwn ddangos y ffordd o osod sedd car eich plentyn yn ddiogel yn eich cerbyd, a chynnig canllawiau manwl i chi am seddau car plant sy’n rhoi cyngor ar ba sedd sydd yn addas i’ch plentyn a’r materion cyfreithiol.”

Mae’r gyfraith yn ei wneud yn ofynnol bod plant sy’n teithio yn sedd blaen neu gefn unrhyw gar, fan neu gerbyd car nwyddau, yn defnyddio sedd car plentyn cywir tan eu bod naill ai yn 135cm o uchder neu 12 mlwydd oed (pa bynnag maent yn cyrraedd gyntaf). Ar ôl hyn, rhaid iddynt ddefnyddio gwregys diogelwch i oedolion.

Cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod plant dan 14 oed wedi’i rhwystro yn gywir yn unol â’r gyfraith.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Ffordd o Fyw, “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch y ffyrdd yng Ngheredigion ac mae’r archwiliad rhad ac am ddim o wirio seddau car plant yn ond un o’r gwasanaethau gwerthfawr a ddarperir gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd. Gallwch wneud apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth rhad ac am ddim o archwilio seddau car plant gan ffoniwch 01545 570881 neu ebostiwch clic@ceredigion.gov.uk. Ymwelwch â’r adran Diogelwch ar y Ffyrdd ar wefan Cyngor Sir Ceredigion am fwy o wybodaeth ar y gwasanaethau a’r cynlluniau darparwyd gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.”

Am fwy o wybodaeth ar Wythnos Diogelwch y Teulu, ymwelwch â’r gwefan ‘The Royal Society for the Prevention of Accidents’; https://www.rospa.com/

 

18/04/2018